Part of the debate – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 3 Hydref 2018.
O, yn sicr, ie. Ni fu gennyf erioed fawr o hyder y byddai'r UE yn negodi bargen gyda ni yn y lle cyntaf oherwydd—[Torri ar draws.] Prosiect gwleidyddol yn bennaf yw'r UE, ac rydym yn sôn yma am berthynas economaidd gyda'r UE yn y blynyddoedd i ddod. Byddai'n llawer gwell gennyf adael, fel yr arferai Theresa May ei ddweud, heb ddim bargen yn hytrach na bargen wael. Credaf nad yw cynigion Chequers yn golygu gadael yr UE o gwbl. Brexit mewn enw'n unig ydyw oherwydd byddent yn ein cadw, i bob pwrpas, yn aelodau o'r undeb tollau, a sut y byddai hynny'n datblygu y tu hwnt i hynny, dyn a ŵyr. Byddem yn derbyn rheolau gan yr UE. Byddem yn addo derbyn y rheolau a wnânt am gyfnod amhenodol, a byddai hynny'n clymu ein busnesau ni, ac ni fyddem yn gallu dylanwadu ar eu telerau hyd yn oed, heb sôn am eu datglymu wedyn.
Ond gadewch inni ddychwelyd at brif bwynt araith Adam Price yma, sef bod pobl Prydain yn llawer rhy dwp i fod wedi gallu gwneud penderfyniad goleuedig. Dim ond pobl fel ni sy'n gallu gwneud hynny. Gwnaed honiadau eithafol ar y ddwy ochr, fel sy'n digwydd ym mhob ymgyrch etholiad, boed yn etholiad cyffredinol neu'n etholiad Cynulliad Cymru. A ddylem gael etholiad bob blwyddyn ar y sail honno, neu bob wythnos ar y sail honno? Yn amlwg, mae'n gynnig absẃrd.
Nid wyf yn erbyn cael refferendwm yn y dyfodol i weld a ddylem fynd yn ôl i mewn i'r UE os mai dyna fydd dymuniad nifer sylweddol o bobl Prydain, a'u bod yn gallu cael mwyafrif o Aelodau Seneddol i gefnogi hynny. Pe bai ail refferendwm yn awr, yn bersonol rwy'n ffyddiog o'r canlyniad. Credaf y byddai'n cadarnhau penderfyniad y refferendwm cyntaf. Ond byddai'n creu cyfnod arall o ansicrwydd, sef mantra parhaus y rhai sy'n cefnogi 'aros' yn awr. Felly, nid yw hyn yn mynd i ddatrys ein problemau.
Yn ymgyrch y refferendwm ei hun, gwariodd y Llywodraeth—Llywodraeth y DU—£9 miliwn ar ein traul ni yn cynhyrchu'r ddogfen hon. Mae'r syniad nad oedd gan bobl Prydain unrhyw syniad beth fyddai canlyniadau gadael yr UE yn ôl y sefyllfa waethaf bosibl—. Darllenwch y ddogfen hon oherwydd, ar un dudalen, mae'n dweud y byddai'r sioc economaidd:
yn rhoi pwysau ar werth y bunt, a fyddai'n creu risg o brisiau uwch am rai nwyddau cartref ac yn niweidio safonau byw. Byddai colli mynediad llawn at Farchnad Sengl yr UE yn gwneud allforio i Ewrop yn anos ac yn cynyddu costau.
Yna, ar y dudalen ganlynol, mae'n dweud:
Mae rhai'n dadlau y gallem daro bargen dda yn gyflym gyda'r UE oherwydd eu bod am gadw mynediad at ein marchnad. Ond barn y Llywodraeth yw y byddai'n llawer anos na hynny... Nid oes unrhyw wlad arall wedi llwyddo i sicrhau mynediad sylweddol—[Torri ar draws.]
Ie, ac er gwaethaf hynny, fe bleidleisiodd y bobl dros adael yr UE. Roedd y bobl yn gwybod beth roeddent yn ei wneud. Y cyfan y mae'r rhai a oedd o blaid aros ei eisiau—y bobl ddiedifar, ddi-ildio hynny—yw ceisio gwrthdroi'r penderfyniadau a wnaeth pobl Prydain ddwy flynedd yn ôl.
Hoffwn wneud un pwynt arall gan fod fy amser ar ben eisoes. Gadewch i ni gadw'r achos economaidd mewn persbectif—[Torri ar draws.] Hoffwn wneud un pwynt yn unig. Dim ond 2.7 y cant yw cyfartaledd pwysedig Sefydliad Masnach y Byd o dariffau'r UE, sy'n cyfateb i £3.9 biliwn mewn derbyniadau tariff. Dim ond rhwng 4 a 7 y cant yw cyfartaledd pwysedig tariffau'r UE ar fewnforion y DU i'r UE—cyfanswm o £5.5 biliwn i £10 biliwn. Mae'r rhain yn ffigurau dibwys yng nghyd-destun yr economïau y soniwn amdanynt. Beth bynnag fo canlyniad y negodiadau presennol, hyd yn oed os na cheir cytundeb, gallwn ymdopi'n hawdd ag ymyraethau o'r fath.