Part of the debate – Senedd Cymru am 5:27 pm ar 3 Hydref 2018.
Wel, caf fy hun yn anghytuno gyda'r rhan fwyaf o fy nghyd-Aelodau Llafur a fy nghyd-Aelodau Plaid Cymru ac yn anffodus, bron nad wyf yn cytuno gyda'r Ceidwadwyr ac UKIP, oherwydd credaf ei fod yn fater cymharol syml, a chredaf fod y rhan fwyaf o bobl yn hollol glir dros beth roeddent yn pleidleisio. Roedd y rhai a bleidleisiodd dros adael yr Undeb Ewropeaidd yn amlwg yn gwneud hynny oherwydd eu bod wedi cael sicrwydd na fyddem yn gadael y farchnad sengl. Dywedodd Daniel Hannan, yr ASE Torïaidd, a ddisgrifir yn aml fel—