Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 9 Hydref 2018.
Wel, mae Tsieina yn Rhif 11 o ran y gwledydd yr ydym ni'n allforio iddynt. Mae gennym ni, wrth gwrs, dair swyddfa yn Tsieina—rydym ni'n bwriadu agor un arall—a'u gwaith nhw yw hyrwyddo cysylltiadau ym mhob ffordd rhwng Cymru a Tsieina. Byddwn yn ceisio ehangu presenoldeb Cymru ym mhob marchnad ym mhedwar ban byd, gan gynnwys y farchnad honno sydd agosaf atom ni—y farchnad Ewropeaidd.