Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 9 Hydref 2018.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n ddiolchgar i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd yr amser i gyfrannu at y ddadl y prynhawn yma.
Mae hon yn ddadl bwysig i bob un ohonom, ar bob ochr i'r Siambr hon, oherwydd mae'r ffordd yr ydym yn ymdrin â system cyfiawnder troseddol yn sylfaenol i'r ffordd yr ydym yn trefnu ac yn rheoli ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. A gadewch imi ddweud hyn wrth Mark Isherwood: mae angen inni wneud mwy na dim ond ymarfer llinellau i'w dilyn yn y ddadl hon. Mae angen inni gael dadl go iawn am sut yr ydym yn rheoli'r system cyfiawnder troseddol. Ac mae hynny'n golygu dadl ynglŷn â sut yr ydym yn darparu iechyd mewn sefydliadau diogel, sut yr ydym yn darparu addysg mewn sefydliadau diogel, sut yr ydym yn sicrhau y rhoddir ar waith y mathau o bolisïau a'r dulliau hynny a all ymdrin â'r materion fel problemau camddefnyddio cyffuriau yr ydych wedi'u codi, Mark, a hefyd rhai o'r materion iechyd meddwl a gododd Leanne Wood yn ei chyfraniad.
Mae'n bwysig ein bod yn gallu gwneud hynny, a dyna pam nad yw datganoli'r materion hyn yn ddadl academaidd sych. Nid yw'n fater ar gyfer seminar neu sgwrs mewn prifysgol neu rywbeth. Mae hon yn ddadl o bwys i bobl, ac y mae hon yn ddadl y bydd ei chanlyniadau yn effeithio'n fawr ar fywydau pobl ar hyd a lled y wlad. Mae angen inni allu cael dull cydlynol o gam-drin sylweddau. Mae angen inni gael dull cydlynol o ymdrin â materion iechyd meddwl mewn sefydliadau diogel. Ac, ar hyn o bryd, nid ydym yn gallu gwneud hyn. A beth sy'n waeth, dyma, hyd y gwelaf fi, yw'r unig ran o'n cyfrifoldebau neu ddarparu gwasanaethau cyhoeddus lle nid yn unig y mae Llywodraeth Cymru yn methu cyflawni polisïau y byddai'n dymuno eu gwneud oherwydd setliad gwael, ond hefyd y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn methu â gwneud hynny. A, Mark, rwy'n deall y pwyntiau yr ydych chi'n ceisio eu gwneud, ond, ar hyn o bryd, nid oes gennym setliad pryd gall y naill Lywodraeth sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau yn y wlad hon sicrhau dull cydlynol a chyfannol o ran polisi. A'r bobl sy'n dioddef yw nid y bobl sy'n eistedd mewn mannau fel hyn, ond y bobl sydd ar hyn o bryd yn y sefydliadau diogel yng Nghymru a rhai eraill ar draws y system cyfiawnder troseddol. Ac rwy'n deall—a gobeithio na fydd pobl yn gweld adroddiad Llywodraethiant Cymru a sgyrsiau am ansawdd y cyfleusterau ac ansawdd y buddsoddi yn yr ystâd fel beirniadaeth ar y bobl sy'n gweithio o fewn y system nac yn feirniadaeth ar y rhai sy'n ceisio gwneud eu gorau mewn amgylchiadau anodd iawn, iawn.
Rydym yn cydnabod bod y materion sy'n ein hwynebu heddiw yn faterion o hanes, lle'r ydym yn cydnabod na wnaed y buddsoddiad er mwyn creu ystad sy'n darparu'r math o ethos a dull a pholisi sydd yn ofynnol gennym. A bydd y pwyntiau a wnaed—a chredaf eu bod wedi cael eu gwneud yn dda iawn gan Leanne Wood a John Griffiths—ar adsefydlu yn sail i unrhyw ymagwedd y Llywodraeth hon.
Mae'r materion a gododd Leanne Wood am le menywod yn y system wedi'u cyflwyno'n dda ac nid diben y Llywodraeth hon yw adeiladu carchar i fenywod yng Nghymru. Gadewch imi ddweud hynny'n gwbl glir. Nid dyna yw diben y Llywodraeth hon na—[Torri ar draws.] Mae ef. Na'r dull gweithredu yr ydym ni'n bwriadu ei gymryd. Byddaf yn ymweld â'r Alban yn ddiweddarach y mis hwn i siarad â Llywodraeth yr Alban am sut y maen nhw'n datblygu canolfan ddiogel i fenywod a sut y gallwn ni ddarparu cymorth i fenywod a theuluoedd yn y system i sicrhau nad oes gennym y math o fethiant strwythurol sydd gennym ni heddiw.
Ac rwy'n gobeithio y bydd y staff sydd yn y gwasanaeth heddiw yn gallu ein helpu i sicrhau gwasanaeth y dyfodol. Ac mae'r pwyntiau yr oeddwn yn teimlo a wnaeth John Griffiths ar adsefydlu a dedfrydau byrrach yr union bwyntiau yr ydym am roi sylw iddyn nhw. Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder eisoes wedi dechrau mynd i'r afael â rhai o'r pwyntiau hynny o ran polisi dedfrydu. Gadewch imi ddweud hyn: yn yr amser yr wyf i wedi bod yn y swydd, rwyf wedi cwrdd â holl Weinidogion perthnasol y weinyddiaeth gyfiawnder. Rwy'n bwriadu parhau i gwrdd â'r Gweinidogion hynny dros y misoedd nesaf i sicrhau bod gennym ni berthynas lle'r ydym yn gallu dadlau a thrafod y materion hyn. Mae'r glasbrintiau yr ydym yn ceisio eu datblygu ar hyn o bryd wedi eu datblygu yn rhan o'r gwaith ochr yn ochr â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a'r Swyddfa Gartref.
Ond gadewch i mi ddweud hyn, a gadewch imi gloi gyda'r sylw byr hwn, Dirprwy Lywydd: nid yw'r materion hyn yn faterion am adolygiad academaidd y setliad yn unig. Mae hyn yn ymwneud â phobl go iawn sydd yn cael eu siomi heddiw, yfory, sydd yn cael eu siomi gennym ni yn y system hon, sydd yn cael eu siomi gan system o Lywodraeth nad yw'n darparu ar gyfer pobl yn y wlad hon. Mae'n bwysig bod pob un ohonom yn cydnabod canlyniadau dynol y materion hyn.
Eisteddais mewn cell yng Nghaerdydd dros yr haf a siarad â dau o bobl sydd yn cael eu cadw yn y ddalfa yng Nghaerdydd. Mae'r ddau i fod i gael eu rhyddhau tua'r adeg hon. Bydd y ddau angen gwasanaethau, bydd y ddau angen cymorth o ran iechyd meddwl, bydd y ddau angen cymorth o ran camddefnyddio sylweddau. Byddan nhw hefyd angen cymorth o ran gallu cael eu hyfforddi i weithio, bydd angen cymorth o ran lle maen nhw'n byw, lle byddan nhw'n cysgu heno a nos yfory. Ein cyfrifoldeb ni yw unioni'r pethau hynny. Ein cyfrifoldeb ni yw sicrhau nad yw'r ddau ddyn y siaradais â hwy yn mynd yn eu holau i'r system cyfiawnder troseddol. Ein cyfrifoldeb ni yw sicrhau bod gan y fenyw a gafodd ei rhyddhau i deithio yn ôl i Gasnewydd ar brynhawn dydd Gwener rywle i gysgu nos Wener. Ein cyfrifoldeb ni yw cael y pethau hyn yn iawn, a dyma sy'n ein mesur ni fel Senedd a phobl: ein penderfyniad i sicrhau nad yw'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn cael eu siomi gan wleidyddion na allant gytuno ar yr hyn y mae angen inni ei wneud. Diolch yn fawr iawn.