Part of the debate – Senedd Cymru am 4:42 pm ar 9 Hydref 2018.
Felly, rydym yn symud at y ddadl ar yr adroddiad blynyddol a'r rhaglen ddeddfwriaethol 'Ffyniant i Bawb'. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar—efallai y bydd yn rhoi cliw i chi. Felly, rydych yn pleidleisio ar welliant 1. Agorwch y bleidlais. Credaf fod pawb wedi pleidleisio. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 17, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, ni dderbynnir gwelliant 1.