Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 16 Hydref 2018.
Yn gyntaf oll, mae ein polisi yn eglur iawn o ran cynnal ail refferendwm. Rydym ni wedi dweud y gallai ail refferendwm gael ei gynnal o dan amgylchiadau penodol yn unig. Y cyntaf yw pa un a oes cytundeb yn Senedd San Steffan ac yma ac yn Senedd yr Alban. Os nad oes cytundeb o'r fath, yna dylid cael etholiad cyffredinol yn fy marn i. Os yw canlyniadau'r etholiad cyffredinol hwnnw yn amhendant, yna sut mae datrys y mater, heblaw wrth gwrs drwy gael refferendwm arall?