Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 16 Hydref 2018.
A yw ef yn gwybod faint o ddigwyddiadau llifogydd a welwyd yn Lloegr dros y blynyddoedd? Ceir rhai pethau y mae'n anodd iawn eu hatal. Nid ydym ni mewn sefyllfa lle y gallwn atal bob un achos o lifogydd, er gwaethaf y tywydd, ac roedd yr hyn a welsom dros y penwythnos yn ddigwyddiad tywydd eithafol. Er hynny, byddwn yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i ddeall beth arall y gallai fod angen ei wneud er mwyn lliniaru effeithiau llifogydd yn y dyfodol.
Ond ni all ddweud yn syml, 'Wel, wyddoch chi, Cymru ydym ni— anghofiwch am yr hyn sy'n digwydd yn Whitehall.' Mae'r arian, ar y cyfan—i gyd, bron—yn dod oddi wrth ei Lywodraeth ef yn Llundain, ac eto mae'n eistedd yn y fan yna ac yn dweud, 'Wel, eich bai chi yw bod gwariant wedi cael ei dorri', pan, mewn gwirionedd, fel y mae'r Ysgrifennydd cyllid eisoes wedi ei ddweud, pe byddai gwariant wedi cadw i fyny—pe byddai gwariant cyhoeddus wedi cadw i fyny a'n grant bloc wedi cadw i fyny—gyda thwf yn yr economi ers 2010, byddai gennym ni £4 biliwn yn fwy. Pam nad yw'n dadlau achos Cymru? Rydym ni'n gwybod bod Gogledd Iwerddon wedi cael gwerth £1 biliwn o arian cildwrn. Pam nad yw'n dadlau achos Cymru?
Ydym, wrth gwrs, rydym ni'n cymryd cyfrifoldeb mewn meysydd datganoledig, ond efallai yr hoffai ef gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb a dweud wrth ei gydweithwyr yn Llundain, 'Digon yw digon—gadewch i ni roi terfyn ar gyni cyllidol; rhowch yr arian i Gymru y mae hi'n ei haeddu.'