Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 16 Hydref 2018.
Ar ôl bod yma ers dros naw mlynedd, mae pobl Cymru wedi dangos eu ffydd ynof i a'm plaid, a gadawaf yn gwbl ymwybodol o'r ffydd hwnnw. Nid oes gen i unrhyw anhawster o ran ymgeiswyr yn cynnig syniadau. Dyna maen nhw i fod i'w wneud. Cyn belled, wrth gwrs, nad ydyn nhw'n mynd yn groes i bolisi sefydledig y Llywodraeth, yna mae'n gwbl briodol mewn cystadleuaeth arweinyddiaeth y dylai ymgeiswyr fod yn rhydd i gynnig eu syniadau eu hunain. Dydyn nhw ddim yn mynd i ddweud, 'Gadewch i ni wneud pethau'n union fel y buon nhw'. Maen nhw wrth gwrs mewn sefyllfa lle mae angen iddyn nhw gynnig syniadau newydd, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf i'n ei groesawu'n fawr iawn. Rwy'n croesawu'r ffaith ei fod yn dilyn y llwyfannau etholiadol a'r ornest arweinyddiaeth yn fy mhlaid gyda diddordeb mawr iawn. Rwy'n siŵr y bydd yn gallu holi fy olynydd pan fydd fy olynydd yn cymryd drosodd fel Prif Weinidog.