Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 16 Hydref 2018.
Diolch yn fawr, Llywydd. Yn gyntaf oll, ar ran Plaid Cymru, hoffwn i estyn cydymdeimlad dwys i deuluoedd a chyfeillion y rhai sydd wedi colli'u bywydau o ganlyniad i'r llifogydd dros y penwythnos, gan gynnwys un o fy etholwyr i, Corey Sharpling, o Gastellnewydd Emlyn. Byddwn i'n croesawu ymrwymiad personol gan y Prif Weinidog y bydd y Llywodraeth yn edrych yn ddifrifol ar unrhyw wersi sydd yn dod i'r amlwg yn sgil y digwyddiadau trasig hyn.