Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 16 Hydref 2018.
Wel, mae ei blaid ef, cyn belled ag yr wyf i'n ymwybodol, o blaid mwy o lo, sy'n golygu mwy o gloddio brig, a dweud y gwir, oherwydd dyna'r unig ffordd o gael gafael ar lo yng Nghymru erbyn hyn. Byddai'n anodd iawn suddo unrhyw byllau glo dwfn, hyd yn oed pe byddem ni eisiau, i gael gafael ar y glo hwnnw, ac yn ddrud iawn oherwydd y ffawtiau daearegol, yn enwedig yn y de. Nid wyf i'n siŵr a yw'n dweud rywsut bod yr UE yn llygru Prydain gyda biomas. Ac mae'n cyfeirio at Afon Irwell—mae gwaith i'w wneud yn y fan honno, yn amlwg, gyda phlastig. Ond y pwynt yw hwn: nid wyf i'n gwneud y pwynt y bydd yr holl reoliadau amgylcheddol yn diflannu rywsut cyn gynted ag y byddwn ni'n gadael yr UE; rwy'n gwneud y pwynt mai'r UE wnaeth orfodi Prydain i lanhau ei hamgylchedd. Roedd gan y DU hanes gwael iawn o ran llygredd. Fe'i gorfodwyd i lanhau traethau, i lanhau afonydd, i lanhau'r môr, oherwydd rheoliadau Ewropeaidd. Ni fyddwn eisiau gweld sefyllfa yn y dyfodol lle byddem yn symud tuag at yn ôl oherwydd rhyw fath o ideoleg marchnad rydd wallgof sy'n dweud bod rheoleiddio amgylcheddol yn rhywbeth a ddylai fod yn ysgafn. Dim o gwbl; rydym ni'n ymfalchïo yn ein hamgylchedd yng Nghymru, rydym ni'n ymfalchïo yn y ffaith ei fod wedi cael ei lanhau gymaint dros y 30 mlynedd diwethaf, ac ni fydd yn symud tuag at yn ôl.