Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 16 Hydref 2018.
Dim o gwbl. Nid wyf i'n gwybod at beth y mae'n cyfeirio ato yn y fan yna. Gwn y bu problem gyda'r ffaith nad oedd y cyfrifon ar gael yn y Gymraeg, sy'n anffodus a bydd angen ei gywiro ac rwy'n credu ei fod wedi cael ei gywiro erbyn hyn. Rydym ni'n hyderus iawn yn yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud i ddarparu'r cymorth sydd ei angen i ddod â swyddi i Gymru, a heddiw rydym ni'n dathlu'r ffaith bod gyflogaeth fwyaf erioed, uwch na'r Alban—y gyflogaeth fwyaf erioed—ac mae anweithgarwch economaidd wedi gostwng. Mae'r rhain yn ffigurau y byddem ni wedi breuddwydio amdanyn nhw heb fod mor bell â hynny yn ôl, ac mae hynny’n dangos pa mor bwysig yw cael Llywodraeth dan arweiniad Llafur Cymru sy'n darparu'r cymorth i fusnesau ac yn sicrhau bod diweithdra yn gostwng yn is na chyfartaledd y DU. Dyna yw'r difidend datganoli.