Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 16 Hydref 2018.
Ydym, oherwydd—. Wel, gadewch i mi weld os gallaf ei esbonio. Mae pren yn dod o goed, ac mae coed yn tyfu. [Chwerthin.] Ac mae coed—. Gallwch blannu coed, byddan nhw'n tyfu, a gellir eu hadnewyddu mewn ffordd na ellir adnewyddu glo, er enghraifft, fel tanwydd ffosil. A dychwelaf at y pwynt a wneuthum yn gynharach—wel, ychydig wythnosau yn ôl yn y Siambr hon: oherwydd yr UE y gwnaeth y DU lanhau ei hamgylchedd. Roedd y DU yn un o'r llygrwyr gwaethaf yn Ewrop. Roedd afon—Afon Irwell yn Salford oedd hi, rwy'n credu—a fyddai'n cynnau pe byddai matsien wedi'i goleuo yn cael ei thaflu iddi. Roedd ansawdd yr aer yn wael. Roeddem ni'n cyfrannu'n sylweddol at law asid. Roedd ein traethau yn fochaidd. Mae'r holl bethau hynny wedi newid gan fod rheoliadau Ewropeaidd wedi glanhau Prydain, a'r peth olaf y byddwn i eisiau ei weld yw i ni ddychwelyd i'r dyddiau tywyll hynny yn y 1980au pan, er enghraifft, roedd Afon Ogwr ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn llifo mewn gwahanol liwiau yn dibynnu ar yr hyn a roddwyd ynddi i fyny'r afon. Fe'i gwelais yn llifo'n wyrdd, yn goch, yn ddu—dewiswch chi, mewn gwirionedd. Roedd lefel y llygredd yn erchyll. Ni all y dyddiau hynny fyth ddychwelyd.