Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 16 Hydref 2018.
Prif Weinidog, o ganlyniad i setliad llywodraeth leol eleni, mae awdurdodau lleol ar draws fy rhanbarth i yn rhybuddio bod toriadau i wasanaethau hanfodol yn anochel. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig cau toiledau cyhoeddus ym Mhorthcawl, mae Abertawe yn cau cartrefi gofal, ac mae Castell-nedd Port Talbot ar ben eu tennyn oherwydd y toriadau. Prif Weinidog, sut mae eich Llywodraeth yn sicrhau bod awdurdodau lleol yn dileu gwariant gwastraffus cyn torri gwasanaethau hanfodol?