Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 16 Hydref 2018.
Rydym ni wedi buddsoddi llawer iawn o arian—£350 miliwn—yn ystod y tymor Llywodraeth hwn i leihau'r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol. Mae hwnnw'n fuddsoddiad sylweddol, llawer mwy na'r hyn a wnaed gan ei blaid ef yn Lloegr, mae'n rhaid i mi ddweud, lle gwnaed toriadau mawr iawn i arian amddiffynfeydd rhag llifogydd.
Nawr, yr hyn y byddwn ni'n ei wneud, wrth gwrs, yw aros i Cyfoeth Naturiol Cymru gyflawni dadansoddiad o ba un a oes mwy y gallwn ni ei wneud, neu ail-flaenoriaethu rhai cynlluniau, yng ngoleuni'r dystiolaeth yr ydym ni wedi ei gweld o'r llifogydd dros y penwythnos diwethaf. Dyna'r peth synhwyrol i'w wneud, dyna'r peth cyfrifol i'w wneud, ond gallaf ddweud bod tystiolaeth eisoes i ddangos bod y cynlluniau yr ydym ni wedi eu rhoi ar waith wedi helpu i liniaru ac atal llifogydd ledled Cymru lle byddai llifogydd wedi digwydd yn y gorffennol.