Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 16 Hydref 2018.
Ac eto mae'r UE yn cefnogi llosgi coed, ac mae gennym ni bobl yng Nghymru sy'n wynebu peryglon posibl i iechyd o ganlyniad i'r llosgi coed hwnnw. Roedd o leiaf tri thân yn y de mewn gwaith ailgylchu pren y llynedd yn unig. Rhoddodd Cyfoeth Naturiol Cymru, yr ydych chi'n ei oruchwylio, drwydded i losgydd biomas drws nesaf i eiddo preswyl ger Doc y Barri. Ceir mwg du, llosgol—[Torri ar draws.]