Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 16 Hydref 2018.
Mae Cyngor Gwynedd ymhlith y cynghorau sydd yn mynd i ddioddef waethaf yn sgil toriadau yn dilyn y setliad llywodraeth leol: toriad o hyd at £11 miliwn, a hynny ar ben blynyddoedd o doriadau enbyd. Ar y llaw arall, mae bwrdd iechyd y gogledd yn gweithredu ar ddiffyg ariannol blynyddol oddeutu £26 miliwn y llynedd, er gwaethaf y ffaith bod y bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig ac o dan eich rheolaeth uniongyrchol chi fel Llywodraeth. A ydy hi'n deg cosbi Cyngor Gwynedd, awdurdod sydd wedi'i ganmol am fod yn gadarn ei drefniadau ariannol, ond gwobrwyo bwrdd iechyd sydd yn perfformio yn gyson wael ac yn methu'n glir â chynllunio'n ariannol a gweithredu'n effeithiol er budd trigolion y gogledd?