Part of the debate – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 16 Hydref 2018.
Arweinydd y Tŷ, a gaf i alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynglŷn â'r broses y mae hi'n ei defnyddio i benderfynu ar y cynigion i gau ysgolion a atgyfeiriwyd iddi gan y sefydliadau amrywiol hynny sydd â'r gallu i wneud hynny? Bydd hi'n ymwybodol bod un cynnig cau ysgol wedi bod ar ddesg yr Ysgrifennydd Cabinet—neu, yn sicr, ar ddesg yn Llywodraeth Cymru—am 31 mis heb ei drafod. Ers pum mlynedd bellach, mae ansicrwydd ynghylch y cynnig penodol hwn i gau Ysgol Llanbedr yn fy etholaeth i yn Sir Ddinbych. Anfonwyd y cais cyntaf i'r Gweinidogion, a chafodd ei wrthod. Gwnaed ail gais wedyn gan Sir Ddinbych i gau'r ysgol, a gyfeiriwyd gan yr Eglwys yng Nghymru yn ôl yn 2015, ac mae'r ansicrwydd yn parhau ynglŷn â'r ysgol. Ond er gwaethaf hynny, mae'r niferoedd yn yr ysgol yn galonnog, maen nhw wedi ymrwymo i gytundeb ffedereiddio gydag ysgol leol arall, ac ymddengys ei bod yn mynd o nerth i nerth ac yn cael llwyddiant mawr. Rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â mi fod ansicrwydd o'r fath am gyfnod mor hir yn gwbl annerbyniol, ac y dylid gwneud penderfyniad ar y mater ar fyrder. Felly, byddwn yn gwerthfawrogi datganiad i egluro'r broses a'r amserlenni priodol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.
A gaf i alw hefyd am ddatganiad ynglŷn â chael gafael ar feddyginiaethau modern? Ces gyfarfod y bore yma gyda'r Ymddiriedolaeth Ffeibrosis Systig ynglŷn â chael gafael ar rai meddyginiaethau mwy modern, gan gynnwys Orkambi, sydd wedi'i brofi i gael effaith sylweddol wrth leddfu symptomau ac arafu cynnydd ffeibrosis systig mewn hyd at 47 y cant o achosion. Gallai oddeutu 200 o bobl sy'n dioddef o ffeibrosis systig yma yng Nghymru elwa ar hyn, ond hyd yma nid yw'r cyffur ar gael, er gwaethaf y ffaith ei fod ar gael yn Awstria, Denmarc, yr Almaen, Lwcsembwrg, yr Iseldiroedd, yr Eidal, Iwerddon, Groeg, yr Unol Daleithiau, a Sweden. Yn amlwg, mae'n gyffur modern, mae'n ddrud, ac rwy'n ymwybodol fod angen i ni warchod y pwrs cyhoeddus, ond mae'n gwneud gwahaniaeth i'r rhai sy'n gallu cael gafael arno, ac rwy'n credu y byddai diweddariad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus i drafod y sefyllfa arbennig hon yn ddefnyddiol, ac yn enwedig i egluro pa un a fu unrhyw drafodaethau â Vertex, gwneuthurwr y cyffur penodol hwn, Llywodraeth Cymru, a GIG Cymru o ran galluogi cleifion i ddefnyddio'r cyffur. Byddwn yn ddiolchgar pe gallwn gael y ddau ddatganiad hynny felly, os gwelwch yn dda.