2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 16 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 2:26, 16 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Cyhoeddwyd y bydd y ddesg flaen gyhoeddus yng ngorsaf heddlu Caerffili yn cau unwaith eto, gan olygu, i bob pwrpas, y bydd tref Caerffili yn cael ei gadael heb orsaf heddlu, a hynny dim ond ychydig dros flwyddyn ar ôl iddi gael ei hailagor. Mae prynu ac adnewyddu'r orsaf wedi costio £315,000 i'r pwrs cyhoeddus. Ac er, wrth gwrs, fy mod yn derbyn nad yw plismona yn fater sydd wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu—bron i 150 yn ardal  Gwent yn unig. Felly, a gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn mynegi barn, a phryder efallai, fod tref fawr, yn colli ei gorsaf i bob pwrpas, ac, yn hollbwysig, y bydd hi'n anoddach i bobl Caerffili ddefnyddio gwasanaethau sy'n cael eu hariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru ei hun?