2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 16 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:40, 16 Hydref 2018

A gaf i ofyn am ddau ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, os gwelwch yn dda? Y cyntaf yn ymwneud â chyhoeddiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig heddiw eu bod nhw am gynnal adolygiad annibynnol ar sut fydd arian amaeth yn cael ei ddosbarthu ymhlith y gwledydd o fewn y Deyrnas Unedig yn y cyfnod ar ôl Brexit. Oherwydd mae'n gwbl allweddol bod hwn yn cael ei wneud yn gywir o safbwynt buddiannau'r sector amaeth yng Nghymru, lle, wrth gwrs, rŷm ni'n cynrychioli 4.7 y cant o'r boblogaeth ond yn derbyn 9.4 y cant o'r ariannu CAP sy'n dod i'r Deyrnas Unedig. Mae hynny, wrth gwrs, yn adlewyrchu natur wledig a phwysigrwydd cymharol amaeth i'r economi Gymreig.

Mae yna drafod wedi bod ynglŷn â phwysigrwydd Barnett a pheidio â defnyddio Barnett fel cynsail i hyn, ac rŷm ni wedi clywed synau cadarnhaol i'r cyfeiriad yna, ond mi oedd yna frawddeg arwyddocaol yn rhai o'r adroddiadau yn dweud: