Part of the debate – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 16 Hydref 2018.
O ran llosgydd y Barri, a yw'r Gweinidog wedi penderfynu ar ba un a oes angen asesiad o'r effaith amgylcheddol i gyd-fynd â'r cais cynllunio diweddaraf ar gyfer tŵr dŵr a maes parcio? Ac a yw'r Gweinidog yn ymwybodol bod y Barry Docks Incinerator Action Group o'r farn bod y prosiect cyfan angen asesiad o'r effaith amgylcheddol i gyd-fynd â'r cais cynllunio yn 2015?