Part of the debate – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 16 Hydref 2018.
Ie, digwydd bod, ces gyfle ddoe i gwrdd â Gweinidog Llywodraeth y DU dros Fewnfudo, Caroline Nokes, ac roedd hyn ar yr agenda i'w drafod. Cadarnhaodd fod y tasglu yn dod i Gymru, a chafwyd ychydig o drafodaeth am y sefyllfa yma yng Nghymru. Dim ond 62 o bobl o Gymru, rhoddodd hi gadarnhad o hynny i mi, sydd wedi defnyddio'r llinell gymorth, ac er nad ydym yn gwybod gwir faint y gymuned sydd wedi'i heffeithio, yn bersonol rwy'n credu, o sgyrsiau gyda'r gymuned—a gwn fod Julie Morgan wedi cael sgyrsiau tebyg—mai dim ond cyfradd fach iawn o'r rhai sydd wedi'u heffeithio yw hynny mewn gwirionedd.
Cefais drafodaeth gadarn am y sefyllfa gyda'r Gweinidog a chyda fy nghyfatebydd yn yr Alban, a thrafodwyd pa wybodaeth y mae disgwyl i bobl ei chyflwyno a pha mor rhesymol yw hynny, a pha bethau y maen nhw'n eu defnyddio i brofi hynny o ran tryloywder a rhesymoldeb, a'r mathau hynny o bethau. Fe wnaeth hi fy sicrhau bod gan y tasglu ddiddordeb mawr mewn cefnogi unigolion drwy gydol y broses, a chafwyd cyfle i ni gyfnewid barn ynghylch y ffaith fod y gymuned angen sicrwydd trwyadl fod y broses ar gael, er mwyn amddiffyn eu diddordebau ac i'w digolledu os ydynt wedi cael unrhyw anawsterau. Felly, rhoddodd y Gweinidog sicrwydd o ran y pethau hynny, ac rwy'n edrych ymlaen at weld sut y bydd y tasglu'n symud ymlaen.