Part of the debate – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 16 Hydref 2018.
A gaf i alw am ddau ddatganiad? Mae'r cyntaf yn ymwneud â syndrom ôl-polio yn arwain at Ddiwrnod Syndrom Ôl-Polio a gynhelir ddydd Llun nesaf, 22 Hydref. Fe'i lansiwyd yn 2013 i wella ymwybyddiaeth y cyhoedd yn gyffredinol, a dewiswyd y dyddiad, 22 Hydref, er mwyn bod yn agos at Ddiwrnod Polio'r Byd, a gynhelir ar y 24 Hydref, gan ymgyrch End Polio Now a gynhelir gan y Rotary.
Gall pobl mewn rhanbarthau anghysbell sydd â'r syndrom fod yn anodd iawn eu cyrraedd. Mae mentrau allgymorth wedi'u cynnal yn yr Alban ac yn ne-orllewin Lloegr ac, yn amlwg, bydd pobl mewn rhannau anghysbell o Gymru sydd â'r syndrom, sy'n byw bywydau ynysig, ac mae angen eu cyrraedd. Mae hyn wedi'i ei gydnabod fel cyflwr niwrolegol. Bydd hyd at 80 y cant o'r rhai sydd wedi cael polio yn datblygu'r syndrom ar ôl nifer o flynyddoedd, ac yn gweld cynnydd mewn gwendid, blinder, poen, problemau gyda'r llwnc, sensitifrwydd i oerfel, a llawer o bethau eraill. Does dim triniaeth benodol i gynnig gwellhad, ond o reoli'r cyflwr yn gywir, mae modd ei sefydlogi ac arafu ei ddatblygiad, gan leddfu'r gost ar y GIG a gwella ansawdd bywyd yr unigolion sydd wedi'u heffeithio. Mewn arolwg gan YouGov ddwy flynedd yn ôl, gwelwyd bod 86 y cant o bobl yn gyfarwydd â chlefyd Parkinson, clefyd Alzheimer, ac epilepsi, ond mai dim ond 7 y cant oedd yn gyfarwydd â'r syndrom hwn. Mae'r British Polio Fellowship yn galw ar seneddwyr ledled y DU i helpu i wella ymwybyddiaeth ar draws y boblogaeth gyfan, gan gynnwys Cymru, yn arbennig o ystyried anghenion y boblogaeth sydd wedi'u heffeithio. Rwy'n galw am ddatganiad ar hynny.
Mae fy ngalwad olaf yn gofyn am ddatganiad ar gaethwasiaeth fodern. Ddydd Sadwrn diwethaf, es i i fforwm caethwasiaeth fodern gogledd Cymru, cyn yr wythnos caethwasiaeth fodern yr wythnos hon, a Diwrnod Atal-caethwasiaeth a gynhelir ledled y DU ar 18 Hydref. Cafodd ei drefnu gan sefydliad trydydd sector, Haven of Light, ond roedd gennym gynrychiolwyr o'r sector busnes, y sector cyhoeddus, a'r sector preifat, yn ogystal â'r Cydgysylltydd Atal-caethwasiaeth, Jeff Cuthbert, fel yr arweinydd atal-caethwasiaeth ar gyfer yr heddlu a chomisiynwyr troseddu, a llawer mwy. Clywsom mai'r boblogaeth sy'n cael ei heffeithio fwyaf erbyn hyn, mewn gwirionedd, yw'r Prydeinwyr sy'n masnachu pobl. Clywsom fod caethwasiaeth fodern yn bodoli mewn busnes, amaethyddiaeth, lletygarwch, mewn troseddau a cham-fanteisio rhywiol ledled y gogledd, yng nghymunedau gwledig Cymru, yn y trefi, ym mhob un sir, a llawer mwy hefyd. Yn amlwg, mae hyn yn amserol o ystyried yr wythnos, ond mae'n amlwg ei fod yn fater parhaus hefyd, gyda chynnydd o 56 y cant yn yr adroddiadau am bobl a gafodd eu masnachu y llynedd, a chwe mis cyntaf y flwyddyn hon hefyd yn dangos ffigurau lluosog, a hynny ddim ond yng Nghymru.