Part of the debate – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 16 Hydref 2018.
Diolch, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y llifogydd a welwyd ledled Cymru dros y penwythnos o ganlyniad i storm Callum. Hoffwn ddechrau drwy gydymdeimlo â phawb sydd wedi dioddef llifogydd dros y penwythnos ac yn arbennig i deulu Corey Sharpling, a gollodd ei fywyd o ganlyniad i dirlithriad.
Hoffwn ddweud ar goedd bod y Llywodraeth hon yn diolch i'r gwasanaethau brys, yr awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru, a fu'n gweithio'n ddiflino ddydd a nos dros y penwythnos i helpu'r rhai sydd wedi dioddef llifogydd, yn cau ffyrdd a gwagio eiddo, ac maen nhw bellach yn gweithio gyda chymunedau i’w cynorthwyo i adfer y sefyllfa.
Rwy'n cydnabod pa mor ddinistriol a gofidus y gall llifogydd fod i'r cymunedau hynny yr effeithiwyd arnyn nhw. Bore yma, gwelais drosof fy hunan rai o'r effeithiau pan ymwelais â Llandysul, lle cyfarfûm â thrigolion a thimau a ymatebodd dros y penwythnos ac sy'n parhau i weithio i adfer y sefyllfa.
Daeth storm Callum â llawer iawn o law i Gymru, gyda hyd at 160mm yn cael ei gofnodi mewn cyfnod o 24 awr—mwy na'r cyfartaledd misol ar gyfer yr adeg hon o'r flwyddyn. Yn ystod cyfnod brig y digwyddiad hwn, cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru 40 o rybuddion llifogydd. Cafodd hyn effaith enfawr ar ein hafonydd, gyda rhai ohonyn nhw'n cofnodi'r lefelau uchaf sydd wedi'u cofnodi erioed, ac, mewn llawer o leoedd, roedd systemau draenio wedi eu gorlwytho. Yn anffodus, mae hyn wedi arwain at lifogydd mewn eiddo, ar ffyrdd, rheilffyrdd a thir amaethyddol ledled y wlad.
Mae'r awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i weithio i asesu graddfa lawn y difrod a'r effeithiau. Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol o lifogydd mewn eiddo yn awdurdodau lleol Sir Gâr, Ceredigion, Castell-nedd Port Talbot, Powys, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Rhondda Cynon Taf, Abertawe ac Ynys Môn. Mae ein hamcangyfrifon presennol yn nodi bod 218 eiddo ledled Cymru wedi dioddef llifogydd mewnol, 195 yn gartrefi, y rhan fwyaf o'r rhain yn hanner deheuol y wlad. Mae awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i gasglu gwybodaeth am lifogydd mewn eiddo a, dros y dyddiau nesaf, mae'r ffigur hwn yn debygol o newid. Yn ogystal â hyn, mae Dŵr Cymru hefyd wedi dweud bod o leiaf 29 eiddo wedi dioddef llifogydd mewnol.
Cafodd storm Callum effaith sylweddol ar wasanaethau rheilffyrdd ar holl rwydwaith Cymru a'r gororau, gyda llifogydd a gwyntoedd cryfion yn arwain at ganslo nifer o wasanaethau, ac yn effeithio hefyd ar berfformiad cyffredinol. Roedd difrod yn sgil llifogydd yn arbennig o ddifrifol ar reilffordd Calon Cymru, lle mae llifogydd ar ran sylweddol o'r trac ger Llandeilo yn golygu y bydd y llinell yn parhau i fod ynghau yn rhannol am sawl diwrnod eto. Yn ychwanegol at yr effaith ar y seilwaith rheilffyrdd, difrodwyd nifer sylweddol o drenau hefyd yn ystod storm Callum drwy iddyn nhw daro coed a changhennau, yn ogystal â gorfod mynd trwy ddyfroedd llifogydd.
Effeithiwyd ar nifer o ffyrdd a phontydd drwy'r wlad dros y penwythnos, ac mae rhai yn dal i fod ynghau. Ni chaewyd y ffyrdd a oedd ynghau yn sgil y llifogydd oherwydd i'r seilwaith fethu, ond oherwydd bod cymaint o ddŵr yn llifo drostynt neu o afonydd yn torri eu glannau. Ailagorwyd y rhan fwyaf o'r cefnffyrdd ddydd Sul ac mae pob un ar agor yn llwyr erbyn hyn.
Adroddodd y cwmnïau pŵer bod dros 38,000 o gwsmeriaid wedi'u heffeithio gan y tywydd garw. Fodd bynnag, roedd pŵer pob cwsmer wedi'i adfer o fewn 24 awr.
Cafwyd nifer o achosion o anifeiliaid yn cael eu dal yn y llifogydd dros y penwythnos. Ymatebodd amryw o asiantaethau yng Nghymru, gan gynnwys y gwasanaethau brys, y trydydd sector a swyddogion gorfodi i adroddiadau o anifeiliaid mewn perygl. Er eu bod wedi gallu helpu mewn llawer o achosion, yn anffodus roedd yr amodau a'r risg i fywyd pobl yn golygu nad oedd bob amser yn bosibl ymyrryd.
Er ein bod ni wedi gweld llifogydd mewn llawer o ardaloedd ledled y wlad, rydym ni hefyd wedi cael adroddiadau o asedau yn gweithio'n effeithiol i leihau'r perygl mewn sawl lle. Dwy enghraifft yw'r adroddiadau o Ystradgynlais a Brynbuga, lle gwnaeth yr amddiffynfeydd eu gwaith ac atal llifogydd yn y trefi hynny. Mae hyn yn helpu i ddangos sut mae ein buddsoddiad parhaus mewn rheoli perygl llifogydd, codi ymwybyddiaeth a systemau rhybuddio wedi cael effaith gadarnhaol.
Mae angen inni yn awr ddeall graddau llawn yr effeithiau sy'n gysylltiedig â storm Callum i lywio trafodaethau ag awdurdodau lleol ac i weld beth y gallwn ni ei wneud i gefnogi'r cymunedau hynny yr effeithiwyd arnynt. Yn dilyn achos o lifogydd mawr, mae gofyniad statudol ar awdurdodau lleol i ymchwilio i'w achos a'i effeithiau, a chynnig argymhellion ar gyfer y dyfodol. Gallai hyn gynnwys sylwadau gan Cyfoeth Naturiol Cymru, a Dŵr Cymru pan fo angen, yn ogystal â pha wersi y gellir eu dysgu ar gyfer y dyfodol. Gwn fod rhai awdurdodau lleol yn ystyried cynllun caledi a'u bod eisoes yn trafod gyda swyddogion cyllid a all Llywodraeth Cymru gynorthwyo â chymorth ariannol brys. Hoffai'r Llywodraeth hon roi ystyriaeth lawn i hynny.
Rwy'n cydnabod pwysigrwydd addasu i'n hinsawdd newidiol a heriol, a dyna pam mae rheoli perygl llifogydd yn parhau i fod yn un o'm blaenoriaethau. Rydym ni wedi ymrwymo i barhau i fuddsoddi mewn camau i reoli risg sy'n deillio o lifogydd ac erydu arfordirol a dros oes y Llywodraeth hon byddwn yn buddsoddi dros £350 miliwn ledled Cymru. Nid yw ein buddsoddiad yn canolbwyntio ar adeiladu a chynnal amddiffynfeydd yn unig, ond hefyd ar gydnerthedd cymunedol a gwaith atal, drwy well gwybodaeth, codi ymwybyddiaeth o lifogydd a pharatoi cynlluniau llifogydd i leihau'r effeithiau ar fywydau ac eiddo.
Ni allwn ni atal pob achos o lifogydd, felly mae ailadeiladu cydnerthedd a dysgu o'r digwyddiadau hyn yn hollbwysig. Fel y dywedais ar y dechrau, ni allwn ni wneud hyn ar ein pennau ein hunain, a hoffwn gloi drwy ddiolch eto i bawb a fu'n rhan o'r ymateb i'r achosion hyn o lifogydd ac sy'n dal i weithio'n galed i helpu â'r gwaith adfer.