Part of the debate – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 16 Hydref 2018.
Rydym ni wedi gweld storm Callum a'r dinistr ofnadwy, llifogydd ym mhobman, a thrasiedi, fel y soniwyd yn gynharach. Cafwyd llifogydd yn y bae. Eto, mae'r ardal sy'n destun anghydfod o amgylch Nant y Rhath yn hollol iawn ac ni fu llifogydd yno o gwbl, felly fy nghwestiwn i chi fyddai: a ydych chi'n credu y gallwch chi wario'r £0.5 miliwn a glustnodwyd ar gyfer ardal Nant y Rhath yn well mewn mannau eraill, ac a wnewch chi ailystyried?