Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 17 Hydref 2018.
Diolch, Jenny. Mae iechyd meddwl cadarnhaol a lles yn ffactorau allweddol ym mherfformiad a chyrhaeddiad disgybl yn yr ysgol. Dyna pam rydym wedi ymrwymo i newid sylweddol yn y cymorth sydd ar gael yn hyn o beth ac wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol i ystyried dull o weithredu ar sail ysgol gyfan a fydd yn sicrhau bod lles yn dod yn rhan o ethos pob ysgol.