Lles Disgyblion

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 17 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 1:33, 17 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o brosiect hynod lwyddiannus Hafod yn dilyn ei hymweliad diweddar ag Ysgol y Preseli yn fy etholaeth. Fel y gŵyr, nod prosiect Hafod yw gwella lles disgyblion a hyrwyddo agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu, a chredaf fod hynny'n hollbwysig i gynorthwyo disgyblion i gamu ymlaen a chyflawni eu llawn botensial. O gofio'r diddordeb mawr y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i fynegi yn y prosiect hwn, a all roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â pha gynnydd y mae'r Llywodraeth yn ei wneud ar gefnogi'r prosiect llwyddiannus hwn?