Arloesedd a Thechnoleg Newydd

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 17 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 2:22, 17 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, efallai eich bod wedi gweld adroddiad diweddar sy'n dweud bod diwydiant technoleg Cymru yn tyfu'n gyflymach nag yn unrhyw ardal arall ac eithrio Llundain. Yn 2016, tyfodd nifer y cwmnïau digidol a lansiwyd yng Nghymru o 3,000 i 3,275, neu dwf o 9.1 y cant, ac mae Caerdydd ac Abertawe bellach yn arwain y cynnydd technolegol hwn. Mae'n bwysig iawn inni adlewyrchu hyn yn y cwricwlwm fel y gall ein pobl ifanc fanteisio ar y cyfleoedd hyn, a'u creu yn wir, ac os oes angen cynghorydd arbennig arnoch, a gaf fi argymell fy nai wyth mlwydd oed, sy'n rhoi cyngor da iawn i mi yn y maes hwn?