Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 17 Hydref 2018.
Diolch i chi am y cwestiwn. Mae 'Siarad â fi 2', ein strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio, yn nodi grwpiau o bobl sy'n arbennig o agored i niwed ac yn cyflwyno camau gweithredu i fynd i'r afael â ffactorau sy'n gallu cyfrannu at hunanladdiad a hunan-niweidio. Mae adolygiad canol cyfnod 'Siarad â fi 2' wedi adrodd ar gynnydd da ar nifer o'r camau gweithredu yn y strategaeth.