Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 17 Hydref 2018.
Diolch i chi am y cwestiwn. Rwy'n hapus i ddweud ein bod yn monitro darpariaeth y gwasanaethau eirioli ledled y wlad, ac ar hyn o bryd mewn gwirionedd, mae Betsi Cadwaladr yn cyrraedd ein safonau cyfredol i wneud yn siŵr fod gwasanaethau eirioli'n cael eu darparu. Rydym yn cael sicrwydd chwarterol ynghyd ag adroddiadau ar ddarpariaeth y gwasanaethau eirioli. Ni allaf roi manylion am y mater penodol rydych yn ei godi, ond os ysgrifennwch ataf gyda'r manylion am natur y pryder, byddaf yn hapus i sicrhau ei fod yn cael ei archwilio'n briodol.