Atal Hunan-niweidio

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 17 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 3:03, 17 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, mae hanner y gwahanol fathau o salwch meddwl yn dechrau erbyn y bydd yr unigolyn yn 14 oed. I nodi Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Prif Weinidog y DU gyfres o fesurau ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Roedd y rhain yn cynnwys recriwtio timau cymorth iechyd meddwl newydd a fydd yn gweithio gydag ysgolion i sicrhau bod pobl ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. O gofio bod mwy na 3,000 o bobl wedi llofnodi deiseb gan grŵp iechyd meddwl yng Ngwent yn galw am roi mwy o lais i bobl ifanc mewn gwasanaethau iechyd meddwl, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau y byddwch yn eu cymryd i sicrhau bod plant a phobl ifanc sydd â salwch meddwl yn cael y cymorth a'r gefnogaeth y maent eu hangen yn ein gwlad? Diolch.