Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:16 pm ar 17 Hydref 2018.
Diolch i chi am y cwestiwn. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu'r cynllun ataliad ar y galon y tu allan i'r ysbyty, ynghyd â sefydlu partneriaeth Achub Bywydau Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £586,000 yn awr i ariannu dwy flynedd gyntaf y prosiect hwnnw.