Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 17 Hydref 2018.
Rydym yn cydnabod rôl hanfodol eirioli annibynnol wrth ddarparu cymorth iechyd meddwl sy'n canolbwyntio ar unigolion. Mae'r Cynulliad wedi deddfu ar gyfer eirioli annibynnol yn ein Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010. Byddwn yn cynyddu ein buddsoddiad mewn gwasanaethau iechyd meddwl eto y flwyddyn nesaf i barhau i wella'r cymorth sydd ar gael.