Part of the debate – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 17 Hydref 2018.
Cefais fy nharo gan nifer o gyfraniadau, gan gynnwys yr hyn a ddywedodd David Melding. Roedd ei gyfraniad meddylgar yn cyfeirio at y ffaith bod llawer o effeithiau cymdeithasol, seicolegol a gwleidyddol i iechyd yr economi sylfaenol. Credaf fod y cyhoeddiad diweddaraf ynghylch—neu'r cyhoeddiad rhagorol diweddaraf ynghylch—yr economi sylfaenol gan Manchester University Press yn cyfleu'n dda iawn, pan fydd gennych ddarpariaeth gwasanaethau a nwyddau sy'n amrywio o ran ansawdd yn ôl statws cymdeithasol, bydd gennych raniadau cymdeithasol yn sgil hynny. Pan fo hynny'n digwydd, bydd gennych y math o fanteisiaeth wleidyddol y nododd David Melding yn gywir, a hefyd, wrth gwrs, y ddiffyndollaeth a welsom yn cael ei harddel ym mhob cwr o'r byd ar lefel genedlaethol a rhanbarthol ac ar lefel ficro yn ogystal.
Roeddwn yn falch iawn hefyd o glywed Helen Mary Jones yn siarad o blaid yr hyn y bûm yn ei ddadlau yma ers dros ddwy flynedd—fod gwerth ychwanegol gros yn llai pwysig i fywydau pobl na'u hapusrwydd a'u lles, na ellir eu mesur bob amser drwy ddefnyddio'r mesuriadau y mae gormod o wleidyddion yn hoffi cyfeirio atynt wrth golbio Llywodraeth mewn perthynas â pherfformiad economaidd. Nod y cynllun gweithredu economaidd yw codi lefel cyfoeth, ie, ond hefyd—yn fwy pwysig yn fy marn i—lefel lles, a sicrhau ein bod yn lleihau anghydraddoldebau yn y ddau.
Credaf ei bod yn iawn ein bod ni, fel cynrychiolwyr etholedig waeth beth fo lliw ein plaid, yn canolbwyntio ar yr economi sylfaenol, oherwydd ni waeth pa etholaeth a gynrychiolir gennym, mae'r economi sylfaenol yn berthnasol i bawb ohonom a'r holl bobl a wasanaethir gennym. Mae wrth galon ein cymunedau a'n profiadau dyddiol, yn ddibynnol fel yr ydym ar nwyddau a gwasanaethau'r economi sylfaenol.
Felly, mae'n hen bryd, yn fy marn i, fod yr hyn y cyfeiriwyd ato yn y gorffennol fel yr 'economi bob dydd' yn cael y ffocws a'r sylw y mae'n eu llawn haeddu. Unwaith eto, dyna pam y mae'r cynllun gweithredu economaidd yn rhoi mwy o fin ar ein dull o weithredu pedair rhan benodol o'r economi sylfaenol—y meysydd hynny sy'n ymwneud â bwyd a diod, twristiaeth, gofal a manwerthu—lle byddwn yn gweithio ar draws y Llywodraeth gyda'r sectorau hyn i fynd i'r afael â thair her allweddol, sef yn gyntaf, gwella ansawdd, cynaliadwyedd a rhagolygon y bobl a gyflogir o fewn yr economi sylfaenol. Mae cynhyrchiant, arweinyddiaeth ac arloesedd yn berthnasol i'n holl economi, ond maent yr un mor berthnasol i'r economi sylfaenol.
Yn ail, mae angen inni newid canfyddiadau ynglŷn â gwaith yn yr economi sylfaenol—yn wir, canfyddiadau ynglŷn â'r economi sylfaenol ei hun. Mae angen inni hybu'r gwerth y mae pob unigolyn yn ei roi ar rôl yr economi sylfaenol yn ein cymdeithas, gan mai pobl a'u sgiliau a'u hymrwymiad sy'n gwneud i'r economi sylfaenol wasanaethu cymdeithas yn llwyddiannus, ac felly mae angen inni fuddsoddi mwy yn y bobl a gyflogir o fewn yr economi sylfaenol.
Yn drydydd, rwy'n credu bod rhaid inni fanteisio i'r eithaf ar effaith yr economi sylfaenol ar ein lleoedd. Mae gan fusnesau a gwasanaethau a nwyddau sy'n ffurfio'r economi sylfaenol ran hollbwysig i'w chwarae yn hybu'r balchder sydd gan bobl yn ein lleoedd a chydlyniant yn ein lleoedd yn ogystal. Felly, mae ein ffocws bellach ar ddatblygu cynllun galluogi sy'n ystyried yr amcanion hynny ac a fydd yn arwain gweithgarwch ar draws y Llywodraeth, oherwydd mae adeiladu economi sylfaenol gref ac effeithiol yn ymwneud â mwy nag ysgogiadau'r economi a thrafnidiaeth sydd at ein defnydd—mae'n ymwneud â dod at ein gilydd a gwneud ymdrech gyfunol ac unedig ar draws y Llywodraeth.
Gan droi at elfennau penodol y cynnig, rwy'n cydnabod yr alwad i fynd ymhellach wrth groesawu egwyddorion yr economi sylfaenol. Rwy'n credu bod yna sail resymegol gref dros ddewis y pedwar gweithgaredd sylfaenol sydd gennyf. Rhaid inni ddechrau yn rhywle, Ddirprwy Lywydd, a chydag adnoddau cyfyngedig, mae cael ymdeimlad o ddiben a ffocws yn eithriadol o bwysig. Ond nid yw hyn yn golygu na allwn groesawu egwyddorion ehangach yr economi sylfaenol. Yn wir, rwyf wedi gofyn i fy mwrdd cynghori gweinidogol edrych ar arferion gorau a'r gwersi y gallwn eu dysgu o enghreifftiau rhagorol fel model Preston o adeiladu cyfoeth cymunedol y cyfeiriodd rhai o'r Aelodau ato. Gwn ein bod eisoes wedi cymhwyso gwersi o fodel Preston yn ein polisïau caffael, ac mae dysgu gan eraill yn rhywbeth rwy'n awyddus iawn i wneud. Dywedodd Hefin David yn gywir ei bod hi'n gwbl bosibl mabwysiadu arferion o fannau eraill, y dylid gwneud hynny pryd bynnag a lle bynnag y bo awydd i'w wneud, a nododd Jenny Rathbone enghreifftiau o arloesi ac arferion gorau yn agosach at adref y dylid eu cyflwyno'n eang ar draws Cymru.
Ac rwy'n cytuno'n gryf gyda'r pwyslais yn y cynnig ar ddeddfwriaeth llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Mae gwreiddio ffyrdd o weithio a nodau cenedlaethol y Ddeddf llesiant yn cynnig cyfle gwych, yn fy marn i, ar gyfer darparu gwerth ehangach drwy gaffael. Gwn fod adnoddau caffael ar gael i'w defnyddio gan y sector cyhoeddus yng Nghymru i ymgorffori'r Deddf llesiant wrth gyflawni gwaith caffael.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n cydnabod bod y cynnig yn gywir i dynnu sylw at rôl gofal, a'r cyfle sydd gennym, rwy'n credu, i dorri cwys newydd drwy edrych ar fodelau cyflawni newydd ledled ein gwlad. Rydym wedi gweld rhai datblygiadau cadarnhaol iawn yn y maes hwn; mae rhai Aelodau eisoes wedi nodi rhai o'r datblygiadau hynny. Rydym wedi ymgysylltu â Chanolfan Cydweithredol Cymru i gefnogi datblygu ac ehangu modelau cyflawni amgen sy'n llawer mwy cynaliadwy, ac yn gwasanaethu'r cymunedau y maent yn rhan annatod ohonynt. Rydym hefyd wedi cyflawni cynllun peilot cymorth busnes yn ardal tasglu'r Cymoedd i roi cyngor gyda'r nod o wella gwybodaeth, hyder a sgiliau ymarferol. Ac mae ein dull newydd, fe gredaf, yn rhoi cyfle inni gynyddu gweithgareddau o'r fath o bosibl ac ymwneud yn ehangach â mentrau cymdeithasol ac eraill wrth ddatblygu modelau busnes amgen.
I gloi, a gaf fi ddiolch i'r Aelodau unwaith eto am eu cyfraniad heddiw? Rwy'n gobeithio'n fawr y gallwn gynnal ysbryd cadarnhaol y ddadl heddiw, a'r ewyllys da yn drawsbleidiol, wrth inni ddatblygu ein dull o weithredu ar sail yr economi sylfaenol, a sicrhau ei bod yn mynd o nerth i nerth.