Part of the debate – Senedd Cymru am 4:02 pm ar 17 Hydref 2018.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl hon heddiw. Credaf ein bod wedi cael cyfraniadau meddylgar iawn, sy'n cwmpasu amrywiaeth o feysydd polisi, ac mae hynny'n bwysig iawn wrth gwrs gan fod yr economi sylfaenol yn cynnwys cymaint o agweddau amrywiol, o soffas i ofal cymdeithasol, y bwyd a fwyteir gennym, yr ynni a ddefnyddiwn, trin gwallt i dai, trafnidiaeth i delathrebu. Mae gweithgareddau sylfaenol yn cwmpasu holl amrywiaeth bodolaeth ddynol ac ar ben hynny, maent yn cwmpasu'r nwyddau a'r gwasanaethau y mae pob aelod o gymdeithas angen mynediad atynt. Maent yn sail i'r wladwriaeth les ac yn cyfoethogi ein profiad materol.
Ar gyfer fy sylwadau i gloi, hoffwn dreulio ychydig o amser yn myfyrio ar bob rhan o'r cynnig sydd ger ein bron yn ei dro. Yn gyntaf, fel y nodwn yn ein pwynt cyntaf, mae'n gadarnhaol iawn fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi sectorau sylfaenol yn ei chynllun gweithredu, ac nid yw honno'n gamp hawdd. Fel y dywedodd Helen Mary Jones, mae angen dewrder i symud oddi wrth y mesuriadau traddodiadol o lwyddiant economaidd megis gwerth ychwanegol gros a chynnyrch domestig gros. Ac fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n ymwneud yn llwyr â chefnogi a gyrru twf cynhwysol, ac mae'n wych gweld bod ganddo hyder i dorri'n rhydd o hualau defnyddio gwerth ychwanegol gros a chynnyrch domestig gros yn unig fel arwyddion o dwf a llwyddiant cenedl, a'i fod o ddifrif, drwy'r cynllun gweithredu economaidd, yn edrych ar ffyrdd o harneisio ac o fesur lles dinasyddion.
Ond fel y gwnaeth cyfranwyr eraill yn glir, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru fynd ymhellach i ymgorffori egwyddorion ac ethos yr economi sylfaenol. Yn wir, gweithgareddau'r economi sylfaenol sy'n darparu 54 y cant o'r swyddi yng Nghymru, a 45 y cant o'n gwerth ychwanegol gros. Yn yr un modd, amcangyfrifir bod hanner gwariant rheolaidd aelwydydd yn cael ei wario ar agweddau ar yr economi sylfaenol.
I droi at fy ail bwynt, rhaid inni ddysgu o'r gwaith a wnaeth cyngor Preston yn mynd i'r afael â thlodi lleol gwreiddiedig, a buddsoddi yn yr economi sylfaenol, fel yr eglurodd Lee Waters, drwy ailddiffinio'r cysyniad o sefydliad angori. Mae busnesau a sefydliadau cymunedol wedi deor yno, a rhoddodd fy nghyd-Aelod Jenny Rathbone enghreifftiau gwych o sut y gwnaed hyn yng Nghaerdydd hefyd a sut y gellid ei efelychu mewn mannau eraill. A dyma'r pwynt allweddol, yn Preston, mae'r £1.2 biliwn a wariwyd gan gyrff y sector cyhoeddus wedi cael ei ddefnyddio'n gadarn er budd yr ardal leol. Mae gwariant lleol gan y cyngor, o leiaf, wedi mwy na dyblu, gyda'r canlyniad fod yr ardal wedi gweld y newid mwyaf ond un yn ei safle ar y mynegai amddifadedd lluosog dros bum mlynedd.
Ynghylch trydedd elfen ein cynnig ar gaffael, mae hyn yn allweddol i sicrhau ein bod yn cefnogi economïau sylfaenol ledled Cymru, ac mae enghreifftiau o arferion rhagorol yn y maes hwn y gellir eu harneisio a'u lledaenu, fel y dywedodd Hefin David wrthym pan siaradodd am yr arbenigedd a ddangoswyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Pe gallem annog yr arian hwn i gael ei wario'n lleol, fel y digwyddodd yn Preston, gellid ei ddefnyddio fel arf i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol pobl a chymunedau yng Nghymru. Fel y noda comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, nid rhywbeth braf i'w wneud yn unig yw hyn, mae dyletswydd ar bob corff cyhoeddus i'w wneud o dan y Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol.
Nawr, mae pedwerydd pwynt ein cynnig yn un hollbwysig. Buaswn yn dadlau'n gryf fod gofal nid yn unig yn elfen allweddol o'r economi sylfaenol, ond drwy ei gydnabod yn y modd hwn, gallwn sicrhau canlyniadau gwell i bawb. Fodd bynnag, fel yr awgrymodd Diane Burns o brifysgol Sheffield, mae angen inni gyflwyno newidiadau sylfaenol i'r ffordd y gwnawn bethau. Mae angen inni newid y ffordd rydym yn comisiynu gofal. Mae angen inni newid o ofal sy'n canolbwyntio arno fel gwasanaeth pecyn nwyddau hawdd ei farchnata. Mae angen inni newid o seilio darpariaeth ar fusnesau heb unrhyw ymrwymiadau lleol i'r rhai sydd ag ymrwymiadau lleol. Yn wir, mae angen inni fod yn uchelgeisiol a cheisio gweld sut y gallwn ail-gydbwyso gwasanaethau i gael y fargen orau i bobl leol, gan adfer ymdeimlad o hunan-werth pobl a gwella eu sgiliau, fel y dadleuodd David Melding mor gryf.
I gloi, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn cefnogi'r cynnig hwn heddiw. Nid yw arfer dull o weithredu sylfaenol tuag at yr economi yn ymwneud â gwario mwy o'n hadnoddau cyfyngedig. Mae'n ymwneud â chysyniadoli'r modd rydym yn ei wario mewn ffordd wahanol a gwell, ac fel y nododd fy nghyd-Aelod, Lee Waters, yn ei sylwadau agoriadol, â dod o hyd i ddulliau pwrpasol o fynd i'r afael â'r gwendidau allweddol yn economi Cymru. Mae hefyd yn ymwneud â sicrhau a chydnabod y rôl allweddol y mae'r gweithgareddau hyn yn ei chwarae yn ein heconomi, a buaswn yn awgrymu, â sicrhau ein bod yn gweld y gweithgareddau sy'n rhan o'r economi sylfaenol, ac sy'n sylfaen i gymunedau lleol a'r wladwriaeth les—a'r rhai a gyflogir ynddynt—fel rhai hanfodol i'n ffyniant yn y dyfodol.