Part of the debate – Senedd Cymru am 3:48 pm ar 17 Hydref 2018.
Rwy'n petruso cyn anghytuno â David Melding, ond hoffwn ein hatgoffa nad pobl sy'n economaidd anweithgar sy'n byw yn y tlodi mwyaf, ond yn hytrach, pobl sy'n gweithio; mae eu cyflogau'n annigonol iddynt fyw arnynt. Rhoddwyd hwn i mi dros amser cinio:
Teimlo'n llwglyd? Dyma rywbeth i gnoi cil arno. Yn ystod y 12 mis diwethaf, roedd 14 y cant o bobl Cymru wedi rhedeg allan o fwyd cyn y gallent fforddio prynu rhagor.
Pobl mewn gwaith yw'r rheini'n bennaf. Nid ydynt yn ennill digon, a dyna arwydd clir nad yw'r economi'n gweithio i Brydain ac mae angen diwygio sylfaenol.
Felly, o ystyried y daeargryn y gallai Brexit ei achosi, mae angen inni feddwl yn galed iawn sut y gallwn ddatblygu economi leol sy'n gallu gwrthsefyll y corwyntoedd hyn, economi sy'n decach, yn defnyddio'r adnoddau sydd wedi'u gwreiddio yn ein cymunedau ac y talwyd amdanynt gan ein cymunedau, yn hytrach na dibynnu ar y rhai y gellir eu sugno i ffwrdd i'r hafan dreth fwyaf cyfleus. Er enghraifft, fel yn Preston, gyda methiant canolfan siopa fawr, mae'r modd y mae Sports Direct wedi prynu House of Fraser yn annhebygol o fod yn achubiaeth i ganol dinas Caerdydd. Mae'n gohirio'r anochel, ond nid yw'n ateb hirdymor i batrymau newidiol. Prin ei fod ronyn yn fwy gwreiddiedig yn ei economi na'i landlord, sydd â buddiannau ar draws y DU a'r Unol Daleithiau. Felly, credaf fod gwir angen inni ganolbwyntio ar sut y gallwn gryfhau ein heconomi sylfaenol, ac mae gan bawb ohonom fuddiant yn hynny.
Er enghraifft, rwy'n cymeradwyo cyngor Caerdydd ar ddefnyddio trosglwyddiadau asedau cymunedol pan na allant ddod o hyd i'r adnoddau i ddatblygu rhai o'u hasedau cyfalaf, er enghraifft drwy drosglwyddo canolfan gymunedol Plasnewydd i'r YMCA, ac mae bellach yn ganolfan gymunedol lewyrchus lle roedd yn methu yn y gorffennol. Trosglwyddo llyfrgell y Rhath, a oedd angen gwaith atgyweirio dybryd i'r to—mae bellach wedi'i throsglwyddo i Rubicon Dance, sefydliad gwirfoddol lleol, y bydd llawer ohonoch yn gwybod amdano, sy'n gallu codi'r asedau nad ydynt yn gyhoeddus ac nad yw cyngor Caerdydd yn gallu eu sicrhau ar yr adeg anodd hon.
Ddoe, yn y Senedd, croesewais y wobr tai arloesol, sy'n golygu y byddwn yn cael datblygiad hollol wych y tŵr coed o 50 o fflatiau i bobl, gyda rhenti fforddiadwy ac yn hollol groes i'r cytiau cwningod y mae'r chwe adeiladwr tai mawr mor frwdfrydig yn eu cylch. Felly, bydd hynny'n adeiladu sgiliau lleol, yn adeiladu arbenigedd yn y math o dai sydd eu hangen arnom ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, yn ogystal â rhoi mwy o arian i mewn yn yr economi leol. Oherwydd os nad yw pobl yn gorfod gwario rhan fawr o'u hincwm ar wresogi eu cartref, mae'n cryfhau'r swm o arian sy'n cylchredeg yn yr economi leol i'w wario ar fwyd ac adloniant ac unrhyw beth arall.
Felly, credaf fod yna fanteision enfawr i'w dysgu o'n hymweliad â Preston, a chredaf fod angen i'n awdurdodau lleol a'n holl gwmnïau angori feddwl o ddifrif amdanynt. Nid yw'n—. Hefyd, mae'r trydydd sector yn chwarae rhan bwysig iawn yn hyn. Ymwelais â fy siop ddodrefn Sefydliad Prydeinig y Galon leol yr wythnos diwethaf—cyfleoedd gwych ar gyfer gwirfoddoli, sy'n golygu bod pobl nad ydynt yn ddigon iach i wneud swyddi lleol neu bobl nad ydynt yn teimlo'n barod i fynd yn ôl i'r gweithle yn gwneud cyfraniad serch hynny, yn ogystal â sicrhau bod y myfyrwyr sy'n byw gerllaw yn rhoi'r dodrefn nad ydynt eu hangen mwyach yn ôl i'w cylchredeg ymhlith y genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr. Mae honno'n sefyllfa lle bydd pawb ar ei ennill.
Un o'r llefydd yr ymwelais â hwy gyda Lee Waters oedd Prifysgol Canol Swydd Gaerhirfryn, lle mae'r fenter Propeller yn gwneud gwahaniaeth mawr. Fe'i sefydlwyd fel canolfan datblygu busnes, cwmni cydweithredol sy'n eiddo i'r gweithwyr yn y cyfryngau digidol, er mwyn atal y draen dawn i Fanceinion. Felly, mae'n cyd-fynd â'r hyn roedd David Melding yn ei ddweud, nad oes angen lleoli pob busnes yng Nghaerdydd. Gellid eu lleoli'n hawdd mewn mannau eraill yn y Cymoedd, yn hytrach na thagu'r ffyrdd. Felly, er bod Prifysgol Caerdydd lawer yn fwy o faint na Phrifysgol Canol Swydd Gaerhirfryn, mae'n gwmni angori pwysig y mae un o bob 130 o swyddi yng Nghymru yn dibynnu arno. Mae'r patentau y maent yn eu datblygu a'r £29 miliwn a gynhyrchir trwy fusnesau newydd myfyrwyr a staff yn dangos y math o swyddi newydd sy'n debygol o aros yng Nghymru ac aros yng Nghaerdydd yn arbennig. Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd.