Part of the debate – Senedd Cymru am 6:05 pm ar 17 Hydref 2018.
Nawr, nid yw 1.5 gradd yn swnio'n llawer, ond mae'n trosi'n ddigwyddiadau tywydd amlach a mwy eithafol, fel stormydd, tywydd poeth a llifogydd—y math o ddigwyddiadau sy'n effeithio'n ddifrifol ar fywydau pobl. Mae'r gwahaniaeth rhwng 1.5 gradd a 2 radd o gynhesu byd-eang yn gyfystyr â'r gwahaniaeth rhwng Arctig sy'n rhydd o iâ unwaith bob degawd, neu unwaith bob canrif. Mae'n gyfystyr â'r gwahaniaeth rhwng dinistrio riffiau cwrel y byd yn llwyr neu golli tua 30 y cant o'r ecosystem hon sy'n cynnal bywyd.
I osgoi'r trychineb posibl hwn, rhaid i'r byd roi cychwyn ar ymdrech benderfynol i symud oddi wrth danwydd ffosil fel ffynhonnell ynni. Gallwn baratoi ar gyfer rhyfel, gallwn ail-gyfalafu banciau byd-eang gyda rhaglen enfawr o esmwytho meintiol ac felly hefyd, gallwn ail-galibradu er mwyn lliniaru newid hinsawdd a achoswyd gan bobl os ydym yn dewis gwneud hynny. Y wers syml o'r wyddoniaeth hon yw po gyflymaf y byddwn yn lleihau allyriadau carbon, y lleiaf difrifol fydd effeithiau cynnydd yn y tymheredd byd-eang. Diolch byth, mae llawer o'r dulliau ar gyfer lleihau ein hallyriadau eisoes yn bodoli. Gallwn weithredu yn awr. Mae'n golygu bod yn rhaid i newid ein system ynni i ffynonellau adnewyddadwy fod yn flaenoriaeth allweddol i Gymru. Wrth ynni, yr hyn a olygaf yw'r trydan a ddefnyddiwn i oleuo ein swyddfeydd a phweru ein setiau teledu, yn ogystal â'r ynni a ddefnyddiwn i bweru ein cerbydau a gwresogi ein cartrefi.
Rhaid inni ddechrau, fel yr Almaen a Denmarc, drwy dargedu gostyngiad yn ein galw am ynni, drwy gynyddu effeithlonrwydd a dileu gwastraff. Wedyn gallwn ddechrau datgarboneiddio trydan. Targed Llywodraeth Cymru yw cynhyrchu 70 y cant o'n trydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030. Ar hyn o bryd nid ydym ond yn cynhyrchu 42 y cant o'n trydan o ffynonellau adnewyddadwy, ac mae angen inni symud yn gynt. Nid oes gennym ond 12 mlynedd ar ôl i gyrraedd ein targed.
Mae'r technolegau a'r modd o wneud hyn eisoes yn bodoli, ac er mor llwm yw'r wyddoniaeth, mae yna gyfleoedd enfawr yn bodoli i Gymru. Gallwn fod yn arweinydd ym maes datblygu a defnyddio ynni adnewyddadwy o'r tonnau a'r llanw. Ceir cwmnïau yng ngogledd Cymru a de Cymru sy'n datblygu atebion sy'n arwain diwydiant ar gyfer datrys problemau allweddol y defnydd o ynni adnewyddadwy ar y môr. Mae angen inni sicrhau ein bod yn manteisio ar ein potensial yn y sector hwn, yn wahanol iawn i stori ynni gwynt, lle roedd Cymru unwaith yn arweinydd byd cyn iddi gael ei gadael ar ôl a cholli cyfle i fanteisio ar y gweithgynhyrchu a'r eiddo deallusol gwerthfawr a ddatblygodd.
Ond mae'r cyfleoedd mwyaf uniongyrchol yn dal i fodoli ar y tir, mewn ynni gwynt ac ynni'r haul, a biomas hyd yn oed—technolegau a brofwyd yn llawn ac sy'n hawdd eu hadeiladu a'u cynnal ac felly'n gymharol isel o ran cost. Rydym yn agos at bwynt lle gall ynni adnewyddadwy ar y tir weithredu heb gymhorthdal, gan roi diwedd ar y pryderon y bydd ynni gwyrdd yn chwyddo biliau'r cartref mewn modd artiffisial. Mae cost ynni adnewyddadwy newydd yn sylweddol is na niwclear, ac yn cystadlu â gorsafoedd pŵer nwy newydd. Mae hyn yn newid pethau'n sylfaenol.
Yng nghefn gwlad Cymru y ceir un o adnoddau gwynt mwyaf sylweddol y DU, ond ni wnaed defnydd digonol ohono ac ni cheir cyfle i adeiladu mwy na nifer fach o brosiectau oherwydd bod y grid yn gyfyngedig. Mae diffyg capasiti grid yn cyfyngu ar gyfleoedd eraill hefyd. Ar hyn o bryd, ni fydd y rhan fwyaf o'r Gymru wledig yn gallu gweithredu mannau gwefru cerbydau trydan ar raddfa fawr, gwres adnewyddadwy na hyd yn oed datblygu cyflogaeth newydd oherwydd na allwn drosglwyddo digon o drydan, ac rydym mewn perygl o ynysu pobl yng nghefn gwlad Cymru, a rhan o fy etholaeth fy hun, rhag effaith newidiadau technolegol a chyfleoedd newydd.
Nodir na ellir gosod mwy nag 1 MW o gapasiti yng Nghymru tan ail hanner y degawd nesaf. Mae angen y capasiti hwn i gefnogi cynhyrchiant uchel a defnydd o ynni adnewyddadwy. Hyd nes y gallwn ddatrys hyn, nid wyf yn gweld sut y gallwn gyrraedd ein targed o gynhyrchu 70 y cant o drydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030. Ac yn fwy perthnasol, os na allwn gyflymu'r amserlen hon, gallai fod yn rhy hwyr i atal cynhesu byd-eang trychinebus. Dylai'r Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol newydd ar gyfer Cymru ystyried y grid fel mater o flaenoriaeth fel y dylai'r fframwaith datblygu cenedlaethol sy'n cael ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru. Er mwyn datgloi cyllid i adeiladu'r grid hwn, a allai'r sector cyhoeddus fuddsoddi yn y grid drwy gronfeydd pensiwn a buddsoddiadau eraill? Yn hytrach na gwario ein gallu benthyca ar godi mega-ffordd a fydd yn anochel yn arwain at allyriadau pellach ac a gaiff ei hadeiladu drwy wlyptiroedd gwarchodedig, sy'n ddalfeydd carbon wedi'r cyfan, dylem roi blaenoriaeth i brosiectau sy'n ein helpu i gyflawni ein hymrwymiadau i genedlaethau'r dyfodol, nid eu chwalu'n rhacs. A gallai ein helpu yma yn y presennol. Bydd galluogi cynhyrchiant ynni adnewyddadwy yn creu elw economaidd sefydlog a hirdymor ar gyfer pobl Cymru.
Felly, rhaid inni ymatal rhag rhoi cyllid tuag at ynni budr. Ar hyn o bryd mae cronfeydd pensiwn llywodraeth leol yng Nghymru wedi sicrhau buddsoddiad o dros £1 biliwn mewn tanwyddau ffosil, arian y gellid ei roi tuag at ddefnydd llawer gwell i gefnogi economi werdd newydd yng Nghymru. Mae ymchwil newydd gan y Sefydliad Materion Cymreig yn awgrymu y gallem greu 3,500 o swyddi yn ninas-ranbarth bae Abertawe, sy'n cynnwys etholaeth Llanelli, drwy newid i rwydwaith trydan 100 y cant adnewyddadwy, a byddai'r rhan fwyaf o'r gwaith hwn yn swyddi gweithredu a chynnal a chadw hirdymor.
Mae'r Sefydliad Materion Cymreig wedi cyflawni ymchwil helaeth i weld pa gamau ymarferol y byddai eu hangen i droi Cymru'n wlad sy'n diwallu ei hanghenion ynni i gyd o ffynonellau adnewyddadwy. Dyna'r math o ymateb beiddgar sydd angen inni ei weld i rybudd cytundeb Paris. Un peth yw pasio deddfwriaeth symbolaidd a chael sylw yn y Cenhedloedd Unedig; gweithredu sy'n cyfrif—gweithredu ar gyfer y tymor hir sy'n cynhyrchu manteision pendant yn y tymor byr hefyd.
Mae ymchwil y Sefydliad Materion Cymreig yn awgrymu bod tua £1.6 biliwn o fantais economaidd i ailosod tai i gydymffurfio â safon effeithlonrwydd ynni uwch dros gyfnod o 15 mlynedd. Oherwydd bod y cwmnïau a fyddai'n cyflawni'r gwaith wedi'u gwreiddio'n lleol yn yr economi sylfaenol, mae manteision hyn yn debygol o gael eu cadw yn ein cymunedau, a chan ein cymunedau. Eisoes mae gennym arbenigedd o'r radd flaenaf ym maes adeiladu cynaliadwy yn ein prifysgolion, yn ein cymdeithasau tai ac yn ein sector preifat, a dylem ei ddefnyddio i sicrhau bod yr holl adeiladau a adeiladir o'r newydd yng Nghymru yn bodloni safonau llym ar gyfer allyriadau carbon. Felly, rwy'n falch fod y Gweinidog tai wedi cyhoeddi cyllid o £4 miliwn ar gyfer prosiect tai gwyrdd arloesol ym Mhorth Tywyn yn fy etholaeth.
Wrth gwrs, mae hyn yn ymwneud â mwy na thrydan a gwres; mae a wnelo hefyd â thrafnidiaeth. Rhaid inni ddatgarboneiddio ein system drafnidiaeth. Yr ateb mwyaf uniongyrchol ac effeithiol yw torri'r ddibyniaeth ar drafnidiaeth breifat, symud pobl tuag at drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol ar gyfer teithiau byr. Mae pob math o fanteision ehangach i iechyd a lles y genedl hefyd o sicrhau bod mwy o bobl yn cerdded a beicio. Dyma'r ateb sy'n gwneud synnwyr ar bob math o lefelau.
Er mor sylweddol a phwysig yw cerbydau trydan fel dyfais, nid ydynt yn ateb i'r broblem hon heb drawsnewid y system drydan. Wedi dweud hynny, dylai Llywodraeth Cymru nodi uchelgais i roi diwedd ar werthu cerbydau petrol a diesel newydd yn y DU. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi gwaharddiad erbyn 2040, gyda gwledydd eraill yn Ewrop yn mynd lawer yn gynharach. Gadewch i ni osod ein huchelgais yn uwch a gadewch i ni ddenu'r sector modurol sydd wedi'i leoli yng Nghymru i droi hyn yn gyfle. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar strategaeth drafnidiaeth newydd i Gymru, ac mae'n rhaid iddi wneud yr angen i ddatgarboneiddio'r sector trafnidiaeth yn rhan ganolog ohoni, nid yn unig yn y geiriau ar ei blaen ond yn y camau gweithredu yn y cefn. Ac mae angen sicrhau bod yr ynni a ddefnyddiwn ar gyfer trafnidiaeth yn dod o ffynonellau adnewyddadwy, boed yn drydan, yn hydrogen neu'n fiodanwyddau.
Gall Cymru ddefnyddio'r argyfwng hinsawdd hwn fel cyfle i ddod yn arweinydd byd-eang, nid mewn geiriau'n unig ond drwy ddefnyddio technolegau adnewyddadwy a datgarboneiddio'r system ynni. Mae'r amserlen yn dynn ac mae angen inni weithredu, ond mae cyfleoedd yma i wella bywydau dinasyddion Cymru wrth inni ei wneud. Diolch.