9. Dadl Fer: Cyflawni ein hymrwymiadau o ran yr hinsawdd — Cymru 100 y cant adnewyddadwy

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:16 pm ar 17 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 6:16, 17 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch, Lee, am gyflwyno'r ddadl fer hon heddiw. Hefyd, hoffwn groesawu gwaith y prosiect Ail-egnïo Cymru gan y Sefydliad Materion Cymreig. Mae'r gwaith yn ystyried sut y gellid diwallu 100 y cant o'n galw am ynni o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035, a'r manteision y gallai hyn eu cynnig i Gymru. Rwy'n disgwyl canlyniadau eu hymchwil gyda diddordeb.

Y flwyddyn diwethaf gosodais darged uchelgeisiol i gynhyrchu 70 y cant o ddefnydd ynni Cymru o ffynonellau adnewyddadwy. Byddai cyflawni 100 y cant o gynhyrchiant ynni adnewyddadwy yn heriol iawn a gallai ein gadael yn ddibynnol ar ein cymdogion i gadw'r goleuadau ynghynn yng Nghymru.

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd adroddiad grymus iawn ar effeithiau cynhesu byd-eang. Tynnodd sylw at sut y byddai gyfyngu cynhesu i 1.5 gradd yn hytrach na 2 radd yn cynnig manteision lluosog o ran y cyflenwad bwyd a dŵr, iechyd dynol a'r amgylchedd. Er mwyn cyfyngu cynhesu byd-eang i 1.5 gradd, mae'r panel yn argymell fod angen inni gynyddu cynhyrchiant ynni adnewyddadwy yn gyflym i ddarparu tua 85 y cant o drydan y byd erbyn 2050. Câi hyn ei gefnogi gan ynni niwclear a thanwydd ffosil gyda dal a storio carbon. Mae'r panel yn datgan fod nwy yn debygol o gynhyrchu tua 80 y cant o'r trydan ledled y byd i ddarparu hyblygrwydd a diogelwch. Byddai cyfyngu ar allyriadau yn galw am ddal a storio carbon, ac nid yw'r dechnoleg hon wedi'i phrofi eto.

Yn eu hasesiad o'r seilwaith cenedlaethol, argymhellodd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol y DU y dylai'r system ynni fod yn rhedeg ar 50 y cant o gynhyrchiant ynni adnewyddadwy fan lleiaf erbyn 2030, fel rhan o'r trawsnewid i gymysgedd o ddulliau cynhyrchu hynod adnewyddadwy. Dangosodd modelau'r comisiwn fod darparu system drydan carbon isel erbyn 2050, wedi'i phweru'n  bennaf gan ffynonellau adnewyddadwy, yn opsiwn cost isel.

Yng Nghymru, rydym eisoes yn gweithredu ar newid hinsawdd drwy Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, lle rydym wedi deddfu i leihau allyriadau o leiaf 80 y cant erbyn 2050. Byddaf yn gofyn i'r Cynulliad gymeradwyo ein targedau allyriadau dros dro hyd at 2050 a'n dwy gyllideb garbon gyntaf yn ddiweddarach eleni. Mae ein ffocws yn awr ar y camau sydd angen inni eu cymryd i gyflawni yn erbyn ein targedau. Rydym yn datblygu ein sylfaen dystiolaeth i lywio'r gwaith o ddatblygu ein cynllun cyflawni carbon isel cyntaf, a gyhoeddir ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf.

Rwyf wedi mynegi pryderon wrth Lywodraeth y DU ynglŷn â'u penderfyniad i hepgor technolegau ynni'r haul a gwynt ar y tir o gontractau gwahaniaeth, y bwriad i ddod â'r tariff cyflenwi trydan i ben, a'r diffyg cyllid i gefnogi technolegau'r tonnau a'r llanw. Mae'r mecanweithiau cymorth hyn wedi ysgogi nifer enfawr o bobl i gynhyrchu ynni adnewyddadwy ac wedi sicrhau gostyngiadau dramatig yn y gost. Mae angen i Lywodraeth y DU adolygu'r gyfundrefn gymorthdaliadau gyfredol fel ei bod yn adlewyrchu pwysigrwydd datblygiadau ynni'r haul a gwynt i gymysgedd ynni fforddiadwy.

Yng Nghymru, rydym yn gweithio i hybu a hwyluso cynlluniau ynni adnewyddadwy ac mae effeithiau'r gwaith hwn i'w gweld. Cynhyrchodd ynni adnewyddadwy ddigon o drydan i ddiwallu 43 y cant o'r defnydd yng Nghymru yn 2016, ac mae'r arwyddion yn dynodi ei fod wedi codi ymhellach i 48 y cant yn 2017. Yr haf hwn, mynychodd Gweinidog yr Amgylchedd agoriad fferm wynt Gorllewin Coedwig Brechfa a lansiodd y gronfa buddsoddi cymunedol flynyddol sy'n werth £460,000. Mae ystâd coetiroedd Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnal Pen y Cymoedd, sef y prosiect gwynt ar y tir mwyaf yng Nghymru a Lloegr. Yn ogystal â'r gwaith y mae ystâd y Goron, y cefais gyfarfod â hwy y bore yma, yn ei wneud ar lesoedd newydd posibl, maent hefyd wedi nodi'r potensial ar gyfer estyniad i fferm wynt ar y môr bresennol Gwynt y Môr.

Nid yw cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar ei ben ei hun, fodd bynnag, yn gwneud dim i leihau ein hallyriadau carbon. Rhaid inni ddileu cynhyrchiant tanwydd ffosil er mwyn ddatgarboneiddio. Ar hyn o bryd, mae Cymru'n cynhyrchu 19 y cant o'r capasiti trydan a gynhyrchir o nwy yn y DU. Fodd bynnag, rydym yn defnyddio llai na 6 y cant o gyfanswm trydan y DU. Roedd 82 y cant o'r trydan a gynhyrchwyd yng Nghymru y llynedd wedi'i gynhyrchu o lo a nwy. Rydym yn ystyried faint y dylai Cymru ei gynhyrchu o nwy yng Nghymru yn y dyfodol a'r dulliau sydd ar gael gennym i reoli hyn. Bydd penderfyniadau ar safleoedd niwclear yn y dyfodol yn cael eu gwneud ar lefel Llywodraeth y DU. Bydd Wylfa Newydd yn darparu ynni carbon isel llwyth sylfaenol gwerthfawr ar gyfer system y DU. Fodd bynnag, os yw Cymru i gynnal prosiectau ynni strategol o'r fath, rhaid iddynt ddarparu manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ehangach i Gymru.

Mae symud tuag at ynni glân hefyd yn galw am weithredu er mwyn symud oddi wrth echdynnu tanwydd ffosil. Rwyf wedi ymrwymo i weithredu er mwyn atal Cymru rhag cael ei chloi i mewn i echdynnu tanwydd ffosil pellach drwy olew a nwy anghonfensiynol ar y tir, megis methan gwely glo neu siâl.

Erbyn diwedd y flwyddyn hon, byddaf yn lansio diweddariad cynhwysfawr o 'Polisi Cynllunio Cymru'. I ateb cwestiwn Jenny Rathbone, byddaf yn llunio argraffiad diwygiedig o Bolisi Cynllunio Cymru cyn diwedd y tymor hwn. Fel y gwyddoch, rydym yn edrych ar adolygiad o'r rheoliadau adeiladu a fydd yn mynd i mewn i ddechrau'r flwyddyn nesaf. Fel rhan o'r gwaith o adolygu polisi cynllunio Cymru, byddaf yn cryfhau'r polisi cynllunio mewn perthynas ag echdynnu nwy ac olew anghonfensiynol ar y tir. Bydd Polisi Cynllunio Cymru yn rhan allweddol o'n polisi cenedlaethol cryfach i hyrwyddo ynni adnewyddadwy. Rwyf am i awdurdodau cynllunio lleol weld adnoddau adnewyddadwy fel asedau gwerthfawr. Rydym wedi cyflwyno gofynion newydd i awdurdodau lleol nodi ardaloedd ar gyfer cynhyrchiant ynni'r haul a gwynt newydd ac i osod targedau lleol ar gyfer ynni adnewyddadwy yn eu cynlluniau.

Mae'r fframwaith datblygu cenedlaethol a'r cynllun morol cenedlaethol ar gyfer Cymru yn darparu cyfle i ystyried y seilwaith sydd ei angen arnom i sicrhau economi wedi'i datgarboneiddio. Ar gyfer y fframwaith datblygu cenedlaethol, rydym yn gweithio i nodi adnoddau ynni'r haul a gwynt ar y tir yng Nghymru, effeithiau eu harneisio, a'r ardaloedd mwyaf priodol ar gyfer annog cynhyrchiant. Yn yr un modd, ar gyfer y cynllun morol, datblygir polisïau i harneisio ynni adnewyddadwy morol cynaliadwy. Fodd bynnag, o ystyried y trydan y mae Cymru eisoes yn ei allforio, rhaid i gynhyrchiant newydd ddarparu digon o fudd i gyfiawnhau ei gyflawni yng Nghymru.

Dengys ymchwil a gyflawnwyd gan y Ganolfan ar gyfer Dyfodol Carbon Isel ar draws ystod o ddinas-ranbarthau byd-eang, y ceir allforio sylweddol o werth economaidd yn syml drwy dalu biliau ynni. Yn rhanbarthau'r DU a astudiwyd, roedd hyn rhwng 5.9 y cant a 18 y cant o'r gwerth ychwanegol gros a gâi ei allforio. Mae'r cynhyrchiant sy'n eiddo lleol yn darparu cyfle da i gadw arian yn yr economi leol, gan gyfrannu at ffyniant. Dyma pam y gosodais darged i sicrhau 1 GW o gynhyrchiant trydan sy'n eiddo lleol erbyn 2030 a disgwyliad i bob datblygiad newydd fod ag elfen o berchnogaeth leol o 2020 ymlaen. Rhaid i'n safbwynt polisi ar ynni adnewyddadwy gyflawni'r diben o gadw budd yn lleol heb weithredu fel rhwystr i gynhyrchiant newydd. Daeth ein galwad am dystiolaeth ar berchnogaeth leol i ben yn y gwanwyn a byddaf yn cyhoeddi ein hymateb y mis nesaf.

Byddwn yn cefnogi cynlluniau ynni rhanbarthol drwy'r atlas ynni. Adnodd fydd hwn ar gyfer helpu awdurdodau lleol ac eraill i sicrhau rôl ganolog i ddatgarboneiddio mewn cynlluniau ar gyfer dyfodol eu hardaloedd. Bydd angen i gynlluniau ynni rhanbarthol gynnwys trydan, gwres a datblygiadau yn y dyfodol, megis cynnydd yn y galw am bŵer cerbydau trydan. Mae cyflwyno cerbydau trydan yn galw am seilwaith, fel y nododd Lee Waters, ac rydym yn gweithio gyda'r Grid Cenedlaethol a dau weithredwr rhwydwaith dosbarthu yng Nghymru i gefnogi eu gwaith ar ddeall effeithiau ehangu'r seilwaith gwefru yng Nghymru.

Hefyd, mae angen inni ddeall mwy ynglŷn â sut y bydd system ynni glyfar a chydgysylltiedig yn gweithio'n ymarferol. Rydym yn ffodus fod gan Gymru y Ganolfan Beirianneg Cynnyrch Cynaliadwy ar gyfer Haenau Diwydiannol Gweithredol Arloesol a Systemau Ynni Integredig Hyblyg—mentrau a ariennir gan yr UE sydd wedi dwyn arbenigedd ynghyd o'n prifysgolion i lywio datblygiadau arloesol mewn adeiladau ynni positif a byw yn glyfar. Rydym yn ategu hyn â'n gwaith ar yr arddangoswyr byw yn glyfar.

Rwyf wedi cynnig dadl, Ddirprwy Lywydd, ar gyfer 20 Tachwedd, a hoffwn inni archwilio yn ystod y ddadl honno pa rôl y dylai Cymru ei chwarae ym marchnad ynni'r DU ac yn fyd-eang. Byddai'n ddefnyddiol inni archwilio'r lefelau cynhyrchiant y mae'r Aelodau'n credu y dylem fod yn anelu atynt. Mae hyn yn bwysig gan y bydd angen i ni arddangos arweinyddiaeth gref ar y cyd i gyflawni'r newidiadau hyn a sicrhau'r budd mwyaf posibl ar gyfer pobl Cymru. Diolch.