Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 23 Hydref 2018.
Ydw, rwy'n cytuno'n llwyr â'r aelod. Dylai'n sicr fod yn rhan o'r ystyriaeth, ac un o'r pethau y mae'r fframwaith yn eu nodi, ymhlith llawer o rai eraill y tynnwyd ein sylw atynt gan bobl anabl eu hunain, yw'r angen i fynediad corfforol gael ei hwyluso. Hynny yw, ceir llawer o fathau eraill o fynediad. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â'r aelod. Gobeithiaf y bydd cyngor Rhondda Cynon Taf yn cymryd hynny i ystyriaeth. Mae llais y bobl anabl yn gwbl flaenllaw, a hynny'n briodol, yn y cynllun gweithredu newydd hwn, ac mae'n amlygu problemau o'r fath fel mater o'r pwys mwyaf.