Part of the debate – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 23 Hydref 2018.
Rwyf ar fin gwneud hynny, diolch i chi. O ran troseddau casineb, mae 40 y cant ohonynt yn ymwneud â chrefydd, a thros 50 y cant ohonynt yn erbyn Mwslimiaid, ac ychydig llai na hynny yn erbyn pobl Iddewig. Felly, mae angen gwirioneddol, rwy'n credu, inni fynd i'r afael â hyn. Rwy'n crybwyll hyn yn awr gan fod yr heddlu wrthi'n paratoi ar gyfer rhagor o hyn, a lefelau uwch o ddigwyddiadau, unwaith y byddwn yn gadael yr UE.