Part of the debate – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 23 Hydref 2018.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â chi, a bydd yn ysgrifennu at bob un ohonom i nodi lle byddwn yn lleddfu pryderon o'r fath. Ond hoffwn hefyd ddweud nad oes raid i'ch etholwr fynd at ei feddyg teulu. Gallai, wrth gwrs, fod wedi mynd i'r fferyllfa gymunedol i gael ei frechiad rhag y ffliw, a byddwn yn argymell yr Aelodau i gofio hynny.