Part of the debate – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 23 Hydref 2018.
Arweinydd y Tŷ, mae Pwyllgor Materion Cartref Tŷ'r Cyffredin wedi galw am roi diwedd ar daliadau sengl o gredyd cynhwysol i aelwydydd yr wythnos hon, ac mae Cymorth i Ferched Cymru yn dweud:
'Mae'n hollbwysig bod y drefn o dalu taliad sengl rhagosodedig i ddeiliad tai yn dod i ben, er mwyn sicrhau bod menywod yn gallu defnyddio eu hadnoddau ariannol eu hunain, ac er mwyn sicrhau nad yw Credyd Cynhwysol yn caniatáu i bobl gam-drin eraill yn ariannol.'
A ydych yn cytuno â mi fod taliadau credyd cynhwysol sengl i aelwydydd yn ei gwneud yn anoddach o lawer i fenywod adael perthynas gamdriniol? A gawn ni ddatganiad i egluro ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thrais yn y cartref, ac i groesawu eu hymrwymiad i gadw grant ffocws tai, sydd, yn ôl Cymorth i Ferched Cymru:
'o bosibl yn gymorth i oroeswyr trais rhywiol a domestig' sydd angen mynediad, a thai â chymorth, yn enwedig o dan y bygythiad parhaus, o ganlyniad i daliadau sengl o gredyd cynhwysol i aelwydydd?