Part of the debate – Senedd Cymru am 5:50 pm ar 24 Hydref 2018.
A gaf i yn y lle cyntaf ddiolch i Bethan Sayed am gyflwyno pwnc mor athronyddol, sydd yn rhoi cyfle i mi barhau’r seminar o bosibl? Oherwydd, yn amlwg, fel Llywodraeth, mae ein pwerau ni dros y cyfryngau yn gyfyngedig gan ddeddfwriaeth datganoli. Nid wyf eisiau mynd yn ôl i’r ddadl dros ddatganoli darlledu, ond y rheswm yn fy marn i dros beidio â dadlau dros ddatganoli darlledu ydy byddem ni wedyn yn sôn am geisio rheolaeth a fyddai o bosibl yn rhyw fath o ffug reolaeth neu'n rheolaeth gyfyngedig dros un llwyfan, tra rwy’n meddwl ei bod yn bwysig inni edrych—fel rydym wedi cael ein hannog i edrych gan Bethan Sayed yn y ddadl yma—ar y cwestiynau sylfaenol ynglŷn â dinasyddiaeth a chyfranogaeth sydd yn rhan o’r cwestiwn yma.
Mae’r cyfryngau o fewn unrhyw gymdeithas yn fodd i gynnal trafodaeth, a lle mae’r cyfryngau yna yn cael eu rheoli gan unrhyw leiafrif o unrhyw fath—lleiafrif pwerus yn rhinwedd strwythur y sefydliadau sydd yn rheoli’r cyfryngau, neu er enghraifft, fel y gwelsom ni tua’r diwedd yna, o bobl a oedd yn ddrwgweithredu mewn gwirionedd drwy ddefnyddio a phrynu pobl i danseilio barn—mae’r tueddiadau yma yn dueddiadau nad oes, yn fy marn i, ddim ond un ffordd ymarferol i ni fel Llywodraeth o geisio eu tanseilio nhw. A hynny yw drwy gynyddu y pwyslais ar addysg adeiladol ym maes cyfryngau ac ym maes deallusrwydd cymdeithasol o beth yw natur y cyfryngau torfol.
Fe fues i, flynyddoedd yn ôl, yn dysgu yn y maes yma ac rwy’n meddwl ein bod ni wedi colli y pwyslais sylfaenol yn aml iawn, sef nad ydym ni yn addysgu’r boblogaeth sut i ddarllen y cyfryngau torfol yn ddigonol. Nid yw’r pwyslais yn ein hysgolion ni, nag yn ein cyrsiau ni, nag o bosibl hyd yn oed mewn llefydd fel y fan yma lle rydym ni’n trafod gwleidyddiaeth. Efallai bod ni ddim yn trafod digon fod dealltwriaeth yn dibynnu ar allu yr unigolyn a’r grŵp penodol y mae rhywun yn rhan ohono fo i allu dadansoddi’r hyn sy’n cael ei ddweud.
Felly, mae’n rhaid imi ddweud fy mod i’n ei ffeindio hi'n anodd iawn fel rhyw fath o gyn athronydd rhan amser i ymateb i ddadl lle mae rhywun yn gallu sôn am 'y gwirionedd' neu am 'y realiti' neu am 'y digwyddiadau', oherwydd fel yr adroddwyd nhw fel y digwyddon nhw. Oherwydd, i mi, mae pob digwyddiad yn cael ei gyfryngu. Mae pob digwyddiad yn cael ei ddehongli. Felly, beth mae eisiau i ni helpu i'w greu yw poblogaeth weithredol sydd yn gallu dadansoddi yn eu meddwl, sydd yn teimlo cyn gynted ac y maen nhw’n cael gosodiad ger eu bron nhw, am unrhyw ddigwyddiad, mai’r cwestiwn nesaf sy’n codi yw: beth ddigwyddodd mewn gwirionedd? Nid bod rhywun yn gallu ffeindio’r gwir, oherwydd nid oedd y person, efallai, sydd yn cael y neges ddim yn rhan o’r digwyddiad ac felly nid oes tyst yn yr ystyr yna, ond bod rhywun yn magu deallusrwydd beirniadol. Rwy’n meddwl bod hynny yn ganolog i’n dealltwriaeth ni.
Ac, felly, beth rydw i am ei gymryd o'r drafodaeth yma ydy'r angen i ni, fel Llywodraeth—ac mae hwn yn fater nid jest o ran diwylliant a'r cyfryngau, ond hefyd yn arbennig o ran cwricwlwm ac addysg—ein bod ni yn chwilio i weld sut y gallwn ni ddefnyddio'r dibenion sydd yn y cwricwlwm newydd i Gymru fel y bydd ein plant a'n pobl ifanc ni yn ddinasyddion sydd yn ystyriol o ran moesegaeth ac yn gallu gwerthuso, ac yn gallu defnyddio tystiolaeth, ac yn gallu bod yn ddinasyddion beirniadol oherwydd yr unig wir yn fy marn i—a fi ddefnyddiodd y gair yna rŵan fy hun—yr unig ffordd effeithiol, ddylwn i ddweud, i ymateb i unrhyw ffug newyddion yw drwy ddadansoddi beth yw digwyddiad a beth yw dealltwriaeth o ddigwyddiad.
Gwendid y gair 'ffug newyddion', wrth gwrs, yw ei fod o'n awgrymu bod yna'r fath beth â newyddion sydd yn wir ac sydd ddim yn ffug. Mae pob newyddion yn ddisgrifiad o ddigwyddiad, ac felly mae'n rhaid i ni fagu'r deallusrwydd yna i weld drwy'r hyn a ddigwyddodd ac i fod yn ystyriol ac yn feirniadol. Mae deall cyfrifoldebau ac hawliau democrataidd yn golygu bod yn rhaid inni ddeall bod rhagfarnau'n digwydd yn gyson mewn cymdeithas, a bod yn rhaid inni hefyd allu dadansoddi'n rhagfarnau ein hunain, ac, felly, wrth wneud hynny—. A wyt ti eisiau ymyrryd?