9. Dadl Fer: Newyddion ffug: Sut y gallwch ei adnabod a sut y gallwch ei drechu?

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:57 pm ar 24 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 5:57, 24 Hydref 2018

Ie, wel, mi allai rhywun ddadlau bod llawer iawn o'r cyfryngau torfol wedi bod yn gwneud ar hyd y blynyddoedd yr un math o beth. Hynny yw, nid wyf i'n credu y gall rhywun ddibynnu ar ddadansoddi cymhelliad unigolyn, ond fe all rhywun ddadansoddi cymhelliad sefydliad a'r angen i greu ymateb i'r cymhelliad yna drwy greu cymuned ddadansoddol.

Felly, codi ymwybyddiaeth bod pob neges sy'n cael ei throsglwyddo ar unrhyw gyfrwng yn neges y dylai'r bobl sy'n ei derbyn hi ei chwestiynu. Mae hynny, rydw i'n meddwl, yn hanfodol i'r hyn rydw i'n ceisio ei ddatblygu. 

Yn ail, hyfforddiant manwl mewn disgyblaeth casglu newyddion i ddinasyddion, yn enwedig dinasyddion ifanc, fel bod pobl yn deall natur y broses o greu newyddion, o greu'r neges, o gyfathrebu'r neges, a gweld beth ydy ystyr egwyddorion delio â gwybodaeth sydd yn glir ac yn annog dealltwriaeth. 

Rydw i'n cofio, os caf i ddweud, un stori na ddylwn i ddim ei dweud, ond rydw i'n teimlo fel ei dweud hi heddiw. Roeddwn i yng nghanol rhyw drafodaeth flynyddoedd yn ôl gyda rhywun a oedd yn gweithio i gorfforaeth ddarlledu yng Nghymru, ac roeddwn i'n ceisio dadlau'r ddadl nad oedd yna ddigon o newyddion Cymreig, ac ateb y newyddiadurwr yna i mi—yn Saesneg oedd y drafodaeth: