Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 24 Hydref 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, fel y mae Russell George wedi'i ddweud, ac fel rydych wedi'i gydnabod eich hun, mae hon yn ddolen gyswllt hollbwysig, sy'n cysylltu rhannau o'r rhanbarth rwy'n ei gynrychioli. Mae'r anghyfleustra a fydd yn codi, yn enwedig i fusnesau, ond hefyd i deuluoedd, pan fo'r bont ar gau yn sylweddol iawn. Yn amlwg, rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â hyn. Roeddwn am ofyn cwestiwn i chi ynglŷn â'r amserlen, ond gan ystyried yr hyn rydych wedi'i ddweud eisoes, sef ei bod yn anodd iawn gwneud hynny hyd nes y byddwch yn gwybod a fydd angen ymchwiliad, a wnewch chi ymrwymo i ddychwelyd i'r Siambr pan fyddwch yn gwybod beth fydd yr amserlenni, oherwydd mae gwybod hynny'n eithaf pwysig, yn enwedig i gynlluniau busnesau lleol?