Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 24 Hydref 2018.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, fel rydych chi'n gwybod, mae rheilffordd HS2 wedi cael ei dynodi'n broject Lloegr a Chymru, er bod yna ddim milltir ohoni yma yng Nghymru, ac er bod astudiaethau yn dangos yn glir y bydd yn costio arian i’r economi Gymreig. Mae’r dynodiad yn golygu na fydd Cymru yn cael dyraniad Barnett llawn ar y costau gwreiddiol o ryw £55 biliwn. Roedd hynny’n golygu Cymru’n colli rhyw £25 miliwn y flwyddyn. Rydym ni’n sôn erbyn hyn o bosib am £100 biliwn ar gyfer y project yma—£50 miliwn y flwyddyn i Gymru dros broject o ryw 15 mlynedd. Mae hynny’n £750 miliwn. A allwch chi ddweud wrthyf i beth ydych chi a Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud i drio cael gafael ar y dyraniad Barnett llawn yna, fel mae Gogledd Iwerddon a’r Alban yn ei gael, wrth gwrs?