Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 24 Hydref 2018.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ateb hwnnw, ac rwy'n cydnabod yr ymyriadau rydych yn cyfeirio atynt. Os caf siarad am ymyrraeth fwy uniongyrchol, rydych newydd sôn am derfynau cyflymder, ond fel rhywun sy'n wynebu tagfeydd ar sail ddyddiol bron, daeth yn amlwg i mi fod terfynau cyflymder sy'n cael eu defnyddio ar adegau penodol yn gwaethygu'r sefyllfa gryn dipyn mewn gwirionedd. Mae terfyn cyflymder o 40 mya ar waith yn aml, yn enwedig ar adegau prysur. A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried ail-werthuso’r drefn hon?