Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 24 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:57, 24 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch am y geiriau caredig, ac wrth gyfeirio at ogledd Cymru a manteision yn sgil HS2 i ogledd Cymru, rydych yn dweud bod hynny'n ddibynnol ar fod y cysylltiadau cywir yn cael eu gwneud yn Crewe. Nid ydym wedi cael y sicrwydd rydym ei angen ynglŷn â'r cysylltiadau yn Crewe.

Er mwyn rhoi rhywfaint o bersbectif am y costau rydym yn sôn amdanynt yma, rhagwelir y bydd y 6.6 milltir cyntaf i'r gogledd allan o Lundain yn costio £8.25 biliwn. Dyna £1.25 biliwn y filltir. Gallech ariannu'r gwaith o ailagor rheilffordd Caerfyrddin i Aberystwyth, trydaneiddio rheilffordd Caerdydd i Abertawe, ailagor rheilffordd Gaerwen i Amlwch yn fy etholaeth am gost un filltir o HS2 yno, a dal i fod â digon o newid i brynu digon o frechdanau i bara oes, heb amheuaeth, ar droli bwffe newydd Trafnidiaeth Cymru.

Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'r prosiect yn y gorffennol, er i chi ddyfynnu astudiaeth Llywodraeth y DU sy'n dangos colli gweithgarwch economaidd, yn y de yn arbennig, ond mae hynny'n wir ar gyfer Cymru gyfan, cofiwch. A allwch enwi Llywodraeth arall a fyddai'n barod i gefnogi prosiect, gan wybod y bydd yn costio i'w heconomi ei hun ac y bydd yn niweidio'r economi honno'n hirdymor?