Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 24 Hydref 2018.
Roedd yn ddrwg gennyf glywed yr Aelod yn ymateb mewn ffordd mor gynhyrfus ac anghyfeillgar. Credaf ei bod yn bwysig cydnabod, ar lawer o faterion—[Torri ar draws.] Ar lawer o faterion, credaf y byddem yn cytuno. Ac ar fater penodol buddsoddi yn y rheilffyrdd, nid oes unrhyw wahaniaeth, rwy'n siŵr, ar draws y Siambr, o ran ein barn y dylid gwario mwy yng Nghymru. Ond mae'r Aelod eisoes wedi amlygu ei fod yn awyddus i ysgwyddo'r cyfrifoldeb am wario arian trethdalwyr Cymru ar brosiectau y dylai Llywodraeth y DU fod yn buddsoddi ynddynt, megis trydaneiddio o Gaerdydd i Abertawe. Cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw hwnnw—nid cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru—a dylai'r arian ddod o Lywodraeth y DU. Pam nad ydych yn herio Llywodraeth y DU ynglŷn â'r mater a dweud eich bod chi am wneud y gwariant hwnnw? Mae'n hurt. Mae'n hurt. Gwn fod Calan Gaeaf ar y gorwel, gyda jôcs a straeon brawychus, ond nid yw eich syniad o wario arian trethdalwyr Cymru ar wasanaethau a seilwaith y dylai Llywodraeth y DU fod yn talu amdanynt yn ddim llai na jôc.