Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 24 Hydref 2018.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? A byddaf innau hefyd yn ystyried ei gais i fod yn gwsmer cudd ar gyfer y fasnachfraint. [Chwerthin.] Rwy'n falch o ddweud y bydd gorsaf y Fenni yn orsaf a fydd yn elwa o fuddsoddiad i sicrhau nad oes unrhyw risiau yno er mwyn gwella mynediad i bawb. Mae'n dipyn o gyferbyniad mai tua £600,000 yn unig a wariwyd yn ystod y 15 mlynedd diwethaf ar wella gorsafoedd ledled Cymru a'r gororau, ac yn y 15 mlynedd nesaf, bydd bron i £200 miliwn yn cael ei wario ar wella'r gorsafoedd hynny, gorsafoedd nad oedd y gweithredwr blaenorol yn gweld eu gwerth, ar sawl ystyr.
Nawr, credaf ei bod yn bwysig nodi hefyd, o fewn y £200 miliwn hwnnw, y bydd tua £15 miliwn ohono'n cael ei wario ar wella mynediad i orsafoedd. Byddwn yn ceisio sicrhau nad oes grisiau mewn cynifer o orsafoedd â phosibl, er mwyn gwella hygyrchedd gwasanaethau rheilffyrdd Cymru a'r gororau i bobl anabl yn enwedig.