Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 24 Hydref 2018.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Rwyf wedi dweud wrth Nick Ramsay sut y bwriadwn wario £15 miliwn o'r £200 miliwn sydd ar gael ar gyfer gwella gorsafoedd ar wella mynediad i bobl anabl yn benodol. Byddaf yn ysgrifennu at yr Aelodau cyn gynted ag y byddwn wedi llunio'r adnodd a fydd yn mesur pa orsafoedd y dylid rhoi blaenoriaeth iddynt. Rwy'n cydnabod bod nifer o Aelodau yn y Siambr hon yn cynrychioli etholaethau gyda chymunedau sydd â phlatfformau nad ydynt yn hygyrch i bobl anabl ar hyn o bryd. Rwy'n dymuno sicrhau bod y dull a fabwysiadir i fesur y gorsafoedd â blaenoriaeth yn un tryloyw, yn deg ac yn hawdd ei ddeall. Byddaf yn ysgrifennu at yr Aelodau gyda manylion yr adnodd hwnnw cyn gynted â phosibl.